Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y GWYLIEDYDD. rhif. 26. EBRILL, 1862. cyf. III. Ìtrem gím^ááai BEDYDDWYP» 1662. Y Ddwy Fil yw testyn y siarad, yr areithio, a'r ysgrifenu yn y dyddiau hyn. Pa faint o hawl sydd gan y Bedyddwyr yn y Ddwy Fil ? Yr wyf am ddywedyd ar unwaith nad oedd nifer mawr o'r Ddwy Fil yn Fedyddwyr. Yr oedd y rhan luosocaf o lawer o'r rhai hyn yn perthyn naill ai i'r In- dependiaid neu i'r Presbyteriaid. Ond yr oedd rhai o'r Ddwy Fil, er hyny, yn Fedyddwyr. Yr oedd o bymtheg ar ugain i ddeugain ohonynt yn Fedyddwyr. Yr oedd rhai Bedydd- wyr yn sefyll yn uchel iawn yn mhlith y rhai a waghaodd eu sefyllfaoedd yn yr Eglwys yn y flwyddyn 1662. Gallaf nodi fel enghraifft tèg o'r rhai hyn,—Yr enwog Jessey, Periglor St. George, Southwark, Llundain, dyn o safle uchel ac o allu- eodd adnabyddus; Bamfield, Vicer Sherbome, yn Swydd Dorset. Yr oedd hwn yn wr o ddysgeidiaeth addfed ac o gymmeriad uchel; Dyke, Periglor Hadam, yn Swydd Hert- ford, cymmeriad o gryn bwys yn y dyddiau hyny; Marsoen, Caplan Ardesley, ger Walcefield, yn Swydd York, dyn oedd hwn etto, ag oedd wedi ennill llawer o enwogrwydd cyn 1662; ac a gyrhaeddodd enwogrwydd llawer mwy wedi hyny trwy ei ddyoddefiadau mawrion, pan yn cael ei erlidofanifan, fel nad oedd ganddo na gorphwysdra na chartref am dros ddwy flynedd ar ugain ; ac hwn yn y diwedd a orphenodd ei yrfa mewn car- char tywyll, fel tyst ffyddlon i'r egwyddorion agoedd yn broffesu. Ond y mae eisiau i'm darllenwyr i gofio mai nid y rhai hyn ac ereill a allasem eu henwi,—rhai ag oedd yn yr Eglwys Wladol yn 1662—oedd blaenoriaid yr Enwad o Fedyddwyr. Yr oeddynt yn sefyll yn uchel yn yr Eglwys, lawer mor enwog â. neb pa bynag o'r ddwy FIL—er hyny nid oeddynt yn blaen-