Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

<*Y :.* GOFIADUR:** CYLCHGRAWN CHWARTEROL CYLCHDAITH WESLEYAIDD IiIaANFAIHCAEHEINION. CYF, XVII. RHIF 2. Olai, flìehefin, a Gopphenaf, 1910. YSBRYDOLRWYDD. Jpi^ljRA ar ymweliad â Manceinion yn ddiweddar cefais fy ^fc^ij hunan ar yr un gronglwyd a boneddwr genedigol o ^fff/ ^ulgaria, ond wedi treuíio dros ugain mlynedd fel w d|h masnachydd yn mhrif dref y cotwm. Yr oedd yn briod â merch i Esgob yn eglwys Groeg. Arweiniodd ein hymddiddan ni, i ymdrafod â máterion crefyddol. Sylwedd syniadau y boneddwr oeddÿnt ;a,ganlyn : "Nid wyf yn cysylltu fy hunan âg unryw enwad crefyddol, ond pan yn clywed am bregethwr enwog gydag unrhyw enwad ymdrechaf fyned i'w wrando ; o dan amgylchiadau cyffredin treuliaf y Sabbothau ŷn y ỳark. Masnachwr wyf i, heb lawer o amser i ddarllen ac efrydu pynciau athrawiaethol a defosiynol Daw llais Eglwysi gyda tafod gwahanol attaf, croésant eu gilydd, a haera pob un mai hi sydd yn iawn. Dywed un bod yn rhaid mynychu y mass a chyfadoîef pechod wrth yr offeiriad, dysg arall nad yw hyn yn angen- rheidiol. Myna un bod yn rhaid wrth lawer o ddwfr yn y bedydd, dywed arall y gwna ychydig y tro. Cred rhai fod iachawdwriaeth dyn yn ddiammodol, eraill yn ddiysgog eu barn mai ammodol yw. Nodweddir crefydd y Sais gyda syniad am yr ymarfërol ond yn oerllyd a marwaidd. Ceir dylanwad y gogledd-wynt ar grefydd y Scotyn nes ei ddwyn ar drothwy Phariseaeth ffurfiol a defodol. Cof genyf glywed am hen bresbyter Scotaidd yn ceryddu gwein- idog ieuanc am fyn'd allan i fwynhau awyr Duw ar ol ciniaw un Saboth. Amddiffynai ÿ*dy#^euanc ei hun trwy adgofio yr hen ŵr hanes Iesu Grist yn myned trwy y cäe gwenith ar y Saboth. " Gwnn yn dda am yr hanes," medd yr hen bresbyter, " ac nid oes genyf ronyn fwy o feddwl o hono Ef am hyny." Ceir yma ffurf- ioldeb ceidwadaidd yn gryfach nag esiampl y Gŵaredwr. Dengys y Cymro danbeidrwydd ei deimladau trwy orfoledd a dagrau hidl. •> Cwestiwn y boneddwr ydoedd pa fodd yr oedd ef i weithredu yn nghanol yr amrywiaeth yma mewn athrawiaethau a thymerau ? TP-~. , <—.1........