Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

■*Y •• COFIADUR:^ CYLCHGRAWN CHWARTEROL OYLOHDAITH WESLEYAIDD LLANFAIReAEHEINION. CYF, XV, RHIF 3. Äoast, medi a Hydtfef, 1908. GAIR YMADAWOL. Gan y Parch. W. Richard Roberts. Anwyl Gyfeillion,— NI ymddengys ond megys doe, er pan ysgrifenais air neu ddau o anerch ar fy nyfodiad i'ch plith. Heddyw y mae genyf y gorchwyl pruddaidd o ganu yn iach â chwi. Dywedais " pruddaidd," a dyna fel yr edrychaf fi ar fy symud- iad o Gylchdaith bob amser. Nid colli golwg ar eich wynebau a cholli eich cwmni sydd yn fy ngwneud yn brudd, canys gwn o'r goreu y caf bobl garedig i ba le bynag yr âf, os yr ymddygaf yn deilwng o'u caredigrwydd. Ond yr hyn sy'n brudd y'nglyn â symudiadau, ydyw tafiu golwg yn ol, a theimlo fod y delfrydau (ideals) oedd genyf wrth dd'od i'r Gylchdaith, i fesur mawr heb eu sylweddoli. Canfyddais yn lled fuan wedi d'od i'r Gylchdaith fod, yn an- mhosibl i'r "Achos goreu" lwyddo yn ein Heglwysi ac yn ein calonnau heb i broffeswyr ymwneud Uai â'r ddiod feddwol, a hyderwn y byddwn yn gadael y Gylchdaith yn un hollol ddir- westol. Nid yw fy ngobaith wedi d'od i ben. Erbyn hyn y mae pob Eglwys yn y Gylchdaith, ond Gwynfa a Saron, yn arfer gwin anfeddwol, ac y mae hyn yn symudiad yn yr iawn gyfeiriad. Gresyn yw i'r Eglwys ddefnyddio gwin meddwol, a thrwy hyny gynorthwyo y fasnach sy'n gwneyd mwyaf o ddinystr iddi Hi a'r ddynolíaeth a geisia ei chodi. Yr hyn a rydd fwyaf o foddhad i mi o ddim y bu'm yn offeryn i'w gyfiawni, ydyw cofio am y nifer fawr a ymunasant â Byddin Dirwest. Hwyrach fod rhai wedi tramgwyddo oherwydd i mi siarad mor ddi-dderbyn-wyneb, ac y mae'n 'bosibl y bydd plant rhai a gymerasant dramgwydd yn ddraen yn eu hystlys, ac y disgynant yn ebyrth ym meddau blys. Hwyrach mae'r adeg horio y sylweddola rhai na allent gytuno â mi, mai fy nghyngor i fyddai oreu.