Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

•*Y •> COFIADUR:^ CYLCHGRAWN CHWARTEROL CYLCHDAITH WESLEYAIDD lalaAHFAIHCAEHEINION. CYF. XV. RHIF 2. CDai, CDehefin a Gotfphenaf, 1908. Y diweddar Barch. Thomas Aubrey, Gan y diweddar Barch. J. P. Roberts. (Parhad o tudalen 3). DYMA'R trö cyntaf y gwelais i fy hen gyfaill. . . . Gan fod y capel bach yn rhy fach 0 lawer i gynwys chwarter y dyrfa bu raid cynal y cyfarfod allan ar y maes. Safai (Mr. Aubrey) o'n blaen ar hen wagen, yn ddyn lluniaidd, unionsyth, prydferth, a boneddigaidd. Yr oedd oddeutu pum' troedfedd a naw modfedd o' daldra. Prin y gellid meddwl hyny, hefyd, yn ei fìynyddoedd plaf, canys yr oedd erbyn hyn wedi tyfu yn fwy ffurfiol a chosphorol. Yr oedd ei wyneb yn grwn a phur agored, tàlcen llydan„ond riîd edrŷchai yn uchel, canys. tyfai ei wallt yn isel braidd; aeliau trwchus, a thanynt ddau lygäid du, disglaer, a thanbaid iawn. V maé 0 bryd tywyll, ac o ymddangosiad iachus a chadarn. Denir ein sylw yn union gan y gair cyntaf a seiniau ; y mae tônau ei lais yn hollol wahanol i bobpeth a glywsom o'r blaen, ac y mae'r llais cyfoethog hwn dan lawn lywodraeth ganddo. Y mae'r cynghaniad {modulatìorì) yn berffaith, a'r oslef (cadence) yn effeithioí i'w ryfeddu. Ond tynir ein sylw gan ryw- beth heblaw'r llais. Beth a ddywedodd yn awr ? Arhoswch chwi; dyn anghyffredin yw hwn, yn siwr i chwi. Y mae yn egluro ei destyn mor fedrus, mor felus, mor oleu ! Yfath iaith gref, brydferth, dda, sydd ganddo, a'r fath awdurdod drosti hefyd! Dechreua bellach fanylu ar ei destyn, y ffugyrau sjâÊSi ynddo, a'r athrawiaethau a ddysgant i ni. Y mae'r " dfìÊSr hwnw " yn ei danio! Dydd ! a dyna ei grebwyll a'i ddarfelydd yn ei gipio i fyny, ac yntau rhyngddynt yn ymgodi i ganol y