Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

^Y •• COFIADUR:^ CYLCHGRAWN CHWARTEROL CYLCHDAITH WESLEYAIDD LLANFAIHCAEREINIOH. CYF. XII. RHIF 1. Chcaeftfof», CDacarth ae Ebtfill, 1905. Y DIWYGIAD. Mr. Golygydd,— YR oeddwn wedi meddwl ysgrifenu rhai Cofiantau byrion am y rhai a hunasant yn ystod y Chwarter diweddaf, ond gan eich bod yn gofyn i mi ysgrifenu ychydig eiriau ar yr Adfywiad Crefyddol sydd wedi dechreu ac yn parhau i ymledu yn ein gwlad, rhaid gohirio y Cofiantau hyd y Rhifyn nesaf. Rhaid i mi addef nad wyf yn teimlo yn barod i ddyweyd llawer am yr Adfywiad, heblaw cofnodi yr hyn a welais yn y Gylchdaith hon, ac a ddarllenais am yr hyn sydd wedi cymeryd íle mewn rhanbarthau eraill. Ond y mae yr hyn y gwn i am y symudiad yn hysbys i bawb arall, fel prin y mae yn angenrheidiol dyweyd pader i berson. Diau genyf y cewch hanes yr Adfywiad yn mhob Eglwys yn y Gylchdaith gan ohebwyr lleol, a phwy gwell i ysgrifenu am bethau fel hyn na llygad-dystion o weithrediadau yr Yspryd Glân. Gŵyr pawb o'ch darllenwyr mai y dyn mwyaf enwog yn Nghymru heddyw, a'r amlycaf o ddynion yn yr Adfywiad yw Evan Roberts, un fu am dair-blynedd-ar-ddeg yn yr Ysgol gyda Duw, yn cael ei barotoi ar gyfer yr hyn a welwn heddyw^ Dyma'r gŵr a ddewisodd Duw i fod yr Arweinydd y Diwygiad gychwyn- wyd yn 1904. Gwyddoch chwi yn ogystal a minau fod eraill yn hawlio mai trwyddynt hwy y cychwynwyd y Diwygiad, ac y mae eu gwaith yn hawlio hyn wedi codi gwrthwynebiad yn mynwes rhai. Sonia rhywun fod Evan Roberts wedi d'od i gysylltiad âg ef, ac fod y gŵr ieuanc wedi derbyn peth hyfforddiant a chyfar- wyddiadau ganddo cyn i'r Diwygiad dori allan, ac mai canlyn- iadau yr hyfforddiant a'r cyfarwyddiadau hyny yw y Diwygiad presenol. Ond fy nghred i, Mr. Golygydd, yw, mai Evan Roberts yw y gẁr ddewisodd Duw i fod yn brif offeryn yn y Diwygiad