Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

^Y v COFIADUR:^ CYLCHGRAWN CHWARTEROL OYLOHDAITH WE8LEYAIDD LlaANFAIHCAEHEINION. CYF. XI. RHIF 1. Choaefpof, frJacai»th ae Bbtfill, 1904. John Wesley,—y Dyn a'i Waith. TUA dechreu y ddeunawfed ganrif fe anwyd dau ddyn, bob un o ba rai fu fyw i beri chwyldroad mawr yn y byd. Yr oedd y ddau hyn mor wahanol i'w gilydd, ag y mae yn bosibl i ddynion fod. Yr oedd un yn un o'r saint mwyaf, yr oedd y llall yn un o'r cymeriadau gwaethaf a welodd ein byd ni. Ganwyd un yn Ffrainc ; ganwyd y llall mewn pentref o'r enw Epworth yn Lincolnshire. Enw un oedd Voltaire ; enw y llall oedd John Wesley. Dyma ddau brif ddyn y ganrif. Cafodd bob un o'r rhai hyn ddylanwad anrhaethol ar eu hoes a'u cenedl. Fe gafodd Voltaire y dylanwad i wneyd ei genedl, y genedl fwyaf anffyddol a llygredig a welodd ein byd erioed. Cafodd y cymeriad aralí, John Wesley, y dylanwad i godi ei wlad o'r tywyllwch moesol yr oedd ynddo.* Chwalodd angrediniaeth yr oes. Sefydl- odd nid yn unig gyfundeb ei hun, yr hwn a ddaeth i fod y Cyfundeb Protestanaidd mwyaf yn y byd; ond heblaw hyny fe ddeffrodd yr enwadau ymneillduol eraill; rhoddodd fywyd newydd yn yr Eglwys Sefydledig, a bu yn foddion i waredu ei genedl rhag dirywiad a dinystr. Ganwyd John Wesley, gwrthrych ein testyn, Mehefm yr iyeg, 1703 yn Epworth yn Lincolnshire. Ei dad oedd y pryd hyn yn ficer y plwyf. Yr oedd yn disgyn o gyn-dadau parchus a diwyll- iedig, y naill ochor a'r llall. Yr oedd o deulu da, yn ngwir ystyr y gair. Disgynai ei dad o deulu boneddigaidd Saesonig, yr un teulu a'r enwog Arthur Wellesley—y Duke 0 Wellington. 0 ochor ei fam, disgynai o hen deulu anghydffurfiol, y rhai o achos eu cydwybod oeddent wedi gadael yr Eglwys Sefydledig. Y mae cymeriad ein hynafiaid yn sicr o fod yn force yn ein bywyd ; ac felly yr oedd gyda Wesley. Yr oedd ei dad yn ŵr dysgedig a galluog. Yr oedd ei fam yn wraig oedd yn deilwng o'r edmygedd mwyaf. Yr oedd o feddwl diwylliedig, o ddealltwriaeth cryf—yn wraig dda, yn fam ddigyffelyb, ac yn Gristion trwyadl. Ac i'w galluoedd naturiol cryfion hi, ac i'r training rhagorol a gafodd ganddi, yr oedd mawredd Wesley yn ddyledus i raddau helaeth