Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

■*Y * COFIADUR:^ CYLCHGRAWN CHWARTEROL CYLCHDAITH WESLEYAIDD CYF, VIII, RHIF 1, Chcaeffof, macaí»th, ae Ebtdll, 1901. Y DIWEDDAR FRENHINES VICTORIA. TRA y mae yr lioll wlad yn galaru o herwydd marwolaeth ein diweddar Frenhines, nis gallwn anfon y Cofiadur i'r wasg heb ysgrifenu gair neu ddau ar yr amgylchiad pruddaidd. Ych- ydig iawn o ddeiliaid Prydain all gofio dydd ei Chor- oniad, Mehefin 2ofed, 1837. Dilynodd William IV., ei hewythr, brawd ei thad, yx hwn trwy ei garedigr- wydd dibalí, a'i ofal gwastadol dros interest ei bobl a enillodd y teitl: "Tad ei Wlad." Am yr un rhesymau gallwn yn briodol alw ein diweddar Frenhines yn " Fam ei Gwlad." Tra y bu hi yn teyrnasu yr oedd fel mam yn gwylied yn dyner a gofalus dros ei theulu, yr oedd yn cyd-lawenhau â hwy yn eu llwyddiant,— galarai a chydymdeimlai â hwy yn eu profedigaethau. Y farn gyffredin ydyw, fod gan helyntion diweddar ei therynas lawer i wneyd â phrysuro ei marwolaeth. Cofnodir ei theyrnasiad fel yr hwyfaf a mwyaf disglaer yn hanes Prydain. Ysgrifenir am y cynydd mawr fu mewn cyfeiriadau lawer, ac am fuddygoliaethau dis- glaer; ond fe fydd Victoria fyw yn nghalonau ei phobl yn hir yn rhinwedd ei rhagoriaethau personol. Pan goddiweddai trallod a phrofedigaeth ei deiliaid, prys- urai i fynegu ei chydymdeimlad, ac i estyn ei chymorth. Ymwelai yn gyson â chleifion yn ein ysbyttai, holai y dioddefwyr yn bersonol, a oedd yna rywbeth allai hi ei wneyd er eu cymorth a'u cysur. Hoffai ei deiliaid ddarllen ei hanes pan yn ymweled â'i chartref yn Ysgotland; cymerai dyddordeb yn y symylaf o'i deiliaid yna. Gwasgarai ei chymwynasau â llaw haelionus, ac ni ystyriai yn beth islaw iddi