Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Ìfẅ COFIADÌJR:*- CYLCHGRAWN CHWARTEROL CYLCHDAITH WESLEYAIDD LLANFAIHCAEHEINION. , CYFROL 6. RHIF. 3 AWST, MEDI AC HYDREF, 1899. ecoooccccoooooooooooooooooooooooooooooooooooooooooooooocooooooooooa Cynhadledd Gyffredinol y Wesleyaid Cymreig. NI, fel Wesleyaid Cymreig, y peth mwyaf dyddorol a phwysig a gymerodd le er's amser mäith ydoedd cyn- | haliad y Gymanfa hon yn Machynlleth, Mehefin i ieg i'r i5fed, 1899. Mae yn debyg fod y rhan fwyaf o honom wedi darllen hanes y cyfarfodydd yn y newyddiaduron, ac yr ydym yn disgwyl eto y cyhoeddir, mewn ffurf hylaw," Cofnodion Swyddogol" o'r „holl drafodaeth ; er hyny, mae yn bosibl nad anghymeradwy fydd ychydig o nodiadau " answyddogol" yn y rhifyn hwn o'r " Cofiadur," gan un a aeth yno o bwrpas i weled, a chlywed, a theimlo a mwynhau, ac a gafodd ei ddymuniadau i fesur helaethach o lawer na'i ddisgwyliadau. Yr wyf fi yn cael boddhad mawr wrth feddwl fod y Gynadledd Cymreig yn reality bellach ; bod ein gobeithion yn y cyfeiriad yna wedi eu sylweddoli, a'n bod ninau drwy hyny wedi meddianu safle uwch a mwy manteisiol nagy buom ynddo erioed o'r blaen. Mae yn dda genyf fod y ganrif hon, a welodd ddechreuad Wesleyaeth Gymreig wedi gweled cymaint o lwyddiant arni, nes, cyn terfyn y ganrif, y mae wedi dringo i sefyllfa mor arbenigoí ag i feddu Cynhadledd. Mae hyn hefyd yn arwydd amlwg ein bod fel Cymrú yn enill tir, yn ymwasgu i'r front, ac yn cael ein recognisio erbyn hyn yn Nghyngorfaon byd ac Eglwys. Mae yn dda genyf i'r Gynadledd gyntaf gael ei gynal yn Machynlleth—tref sydd yn y North ac eto yn perthyn i District y South. Dymunol iawn oedd cyfarfod yno â chynifer o hen gyfeillion hoíf o wahanol barthau o'r wlad, yn weinidogion a lleygwyr, a bron yr oll o honynt yn dwyn yr arwydd ar eu gwynebau eu bod "yn y mynydd," a'r oll o honynt yn dwyn tystiolaeth mae llwyddiant digymysg oedd y Gymanfa mewn ystyr cynhanleddol, ac hefyd fel moddion crefyddol. Dymunol iawn hefyd oedd cyfarfod âg amryw o'r brodyr-sydd yn golofnau yr achos yn y " South," y rhai mae eu henwau yn adnabyddus, "a'u