Skip to main content

BUGEILYDD. Cyf. I. Rhip. 12. HYDREF, 1881. Pais 2g. ENWOGION YR EGLWYS GYMREIG. Y Parchedig David Williams, B.D., Canon Trig- iannol yn Eglwys Gadeiriol Tyddewi, a Ficer Llanelli, Sir Gaerfyrddin. (Gwcler y darlnn ar y âdaleu gogyfer.) fANWYD y Parchedig Ganon Williams yn Sir Frycheiniog, yn y flwyddyu 1825, a derbyniodd ei addysg ath- rofaoí yng Ngholeg Dewi Sant, Llanbedr, lle yi ennillodd ysgoloriaeth, ac y gwnaed ef yn " Bates Prizeman." Urddwyd ef yn Ddiacon ynl849,ac yn Offeiriadyn 1850, gan Esgob Ty Ddewi. Cafodd ei ddyr- chafu yn 1851 i Ficeriaeth Silian a Llan- wnnen, ac o'r flwyddyn 1854 hyd 1867 bu yn Broffeswr Cymraeg yng Ngholeg Dewi Sant. Yn ystod y blynyddau hyn yr oedd yn Beriglor Llanedi, a thrwy ei ymdrech- ion a'i sêl yr adeiladwyd y " ítectory," a chapel anwes Tŷ Croes. Yn 1867 pen- nodwyd ef i Ficeriaeth Llanelli, plwyf poblog yn Sir Gaerfyrddin, yn cynnwys dros 15,000 o eneidiau ; ac yn 1871 gwnaed ef yn Ddeon Gwledig Cydweli, yn Gaplan Arholiadol Cymreig yr Esgob, ac yn 1876 yu Ganon Trigiannol yr Eglwys Gadeiriol. Gellir d'weyd fod Canon Williams yn un o'r Oíîeiriaid mwyaf llwyddiannus yn Neheudir Cymrn. Hyd nes yr appwynt- ÌAV}'d cf i Llanelli, yr oedd golwg wael ar yr achos Eglwysig ; ond nid hir y bu cyn iddo ddwyn gwelliant braidd ym mhob cyfeiriad, sef yng nghaniadaeth y. cyssegr —adgyweirio yr hen Eglwys Blwyfol—ad- eiladu Ficerdŷ newydd—helaethu yr Ysgol Genedlaethol—adeiladu Eglwys newydd yr Holl Saint; a pherthyna i'w Eglwysi gyn- nulleidfaoedd gyd â'r mwyaf yn yr ardal- oedd. Yn 1879 bu yn foddion i ranu ei blwyf yn dri, ac yn awr y mae Felinfoel a Dafen yn blwyfi Eglwysig ar ben eu hun- ain. Y mae Canon Williams hefyd yn llwyr- ymwrthodwr, ac y mae dan ei arolygiaeth Gymdeithas Ddirwestol lewyrchus. Pan y bu y Dadgyssylltwyr yn Llanelli, rai blyn- yddau yn ol, gwrthwynebwyd hwynt gan y Canon yn bersonol ar esgynlawr yr " Athenseum," ac y mae ei bamphledau a ysgrifenodd yn eu herbyn yn wir deilwng o'r awdwr talentog a llafurus.