Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YR EISTEDDFOD. BHIF. 8.-CÎF. II. PBYDDEST AE DAFYDD: Buddugol yn yr Eisteddfod Genhedlaethol yn Aberystioyth, 1865. Y Feirniadaeth. Derbyniwyd deg o gyfansoddiadau ar y testyn rhagorol hwn, sef eiddo Jonathan, Mailliw, Addolwr, Eiddilyn ap Eiddil, Gwron, Sadoc ap Coliath, Spero, Goronwy Fychan, Caniedydd, ac Ezra. Jonathan.—Dymuna yr awdwr hwn ein hysbysu fod ei iechyd yn wan pan ydoedd yn cyfansoddi ei bryddest; ac oherwydd hyny bu raid iddo adael ei bryddest heb ei gorphen. Y mae yn ddrwg iawn genym i wael- edd luddias yr awdwr i orphen ei bryddest; ond y mae yn rhaid cyfaddef nad oes dim yn yr hyn a ysgrifenwyd a thuedd ynddo i godi disgwyliadau uchel am deilyngdod y gwaith. Y mae yr iaith yn wallus, y dychymyg- iad yn isel, yr aralleiriad o hanes Dafydd yn ddiaddurn, y mesurau yn cael eu newid yn rhy fynych, ac y mae yr holl gyfansoddiad yn arwyddo diífyg ystyriaeth bwyllog a dofn. Mailliw.—Cymerodd yr awdwr hwn gryn lawer o lafur i drefnu ei bryddest; ond er hyny ymddengys nad yw ei drefn yn cydweddu yn dda â natur ei destyn. Y mae iaith yr awdwr hwn ar y cyfan yn weddus, ac y mae ei ddarfelyddiad yn gryf ; ond er hyny nis gellir ystyried y brydd- est yn gyfanwaith, oherwydd fod lluaws o nodweddau Dafydd heb eu gweithio allan ynddi. Dygodd yr awdwr lawer o bethau i mewn i'r bryddest y gallasai eu hebgorna gadawodd luaws o bethau anhebgorol allan. Un o'r pethau cyntaf a ddylid ei wybod wrth gyfansoddi yw gwybod beth i roddi yn y gwaith, a gwybod beth i'w adael allan. Addolwr.—Pryddest hanesyddol sydd gan Addolwr, ac ymddengys mai y prif gynllun a gymerödd ydoedd dilyn hanes Dafydd. Nid ydym yn dyweyd dim yn erbyn hanesiaeth deg, ond nid ydym yn foddlawn ar un cyfrif i gymeryd hanesiaeth yn lle barddoniaeth. Nid yw ffeithiau hanes- yddol i fod ond megys mynyddoedd cedyrn i'r awenydd roddi ei draed i lawr arnynt, a hyny er mwyn iddo gael mantais i ymddyrchafu yn uwch rnewn dychymyg. Ni chymerodd yr awdwr hwn ddigon o ofal gýtlä'r CYF. II.—RHIF. 8. 19