Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

EBRILL, 1865. EFFELTHIAU NIWEIDIOL DIÖTáf^d NATIONAL UBRARY OF WALES. Cpi ..................i Acc.NoO^M* Sh, No........,..... I YN FWYAF NEILLDUOL YN NGWEITHFAOEDD CYMRU. BUDDUGOL YN ElSTEDDFOD ABERTAWE, 1863, Gan HTom, Mab y Gweithiwr;' sef Mr. THOMAS DAFIES, Morriston. Dymtjnol gweled y sylw a delir y dyddiau hyn i feibion ilafur, a'r ym- drechion wneir tuag at eu dyrchafu. Mae y gweithiwr wedi dyfod i gael ei deimlo yn gymaint gallu yn y wlad, fel y mae y mawrion yn ei barchu, ac yn ymdrechu i'w ddwyn i barchu ei hun. Gall gyí'rif yn mysg ei anrhydedd- wyr y mwyaf eu dylanwad, y mwyaí' eu cyfoeth, y mwyaf eu dysg, a'r mwyaf eu talent. Amddiífynir ei iawnderau gan y wasg ; dadleuir ei hawliau gan y senedd; darlithir ar ei ddyrchafiad gan ben areithwyr byd; a gwneir ei lesiant yn destun ystyriaeth gan ein Heisteddfodau, a'n sefydliadau cenedì- aethol. Ond, er cymaint y gwerth a osodir arno gan ereill, heb i'r gweithiwr osod gwerth priodol arno ei hun, anmhosibl iddo ymgodi. Rhaid iddo ymddyrch- afu trwy ymrhyddâu oddiwrth yr arferion hyny sydd yn ei ddarostwng. Diamheu nad oes un arferiad yn niweidio cymaint ar y gweithiwr, a'r arfer- iad o ddiota, Mae geiriad y testun yn ein eyfyngu at yr arferiad hwn, fel y dygir ef yn mlaen, yn fwyaf neillduol, yn Ngweithfaoedd Cymru. Fel y cyfryw, efallai, mai nid anmherthynasol fyddai nodi y prif gysylltiadau yn mha rai y mae yr arferiad yn cael ei dilyn yn y gweithfeydd. 1. Yr arferiad fel y mae yn gysylltieâig d'r " FooUngs." Nid oes genym un enw Cymreig ar y ddefod hon. Aì y Saeson ddaeth â'r arferiad 1 Grymru, wyddus? Mae yr enw yn awgryinu hyny. Cynwysa rhywbeth tebyg i hunan-eglurâd yn eu haith hwy,—"footing" neu "foot-in,"—troed i mewn. Yn arwyddo fod dyn wedi cael ei droed i fewn i waith newydd. üyma y drefn : pan y byddo dyn yn dechreu gweithio mewn gwaith, rhaid ìddo dalu rhy w swm o arian, (cyflog diwrnod fynychaf, er nad yw y drefn yn unffurf,) am ewyllys da ei gydweithwyr. Yrir gwerth yr arian o ddiod. îîid yw o wahaniaeth pa un ai gweddw ai priod fyddo y dyn; pa un a fu yn hir Cl'F. II. — RHIF. 5. 1.