Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YR EISTEDDFOD. HYDEEF, 1864. YB, EISTEDDFOD. TB URDDAU. Mewn cysylltiad â'r Eisteddfod, y mae y ddefod o weinyddu Urddau, wedi eael ei harfer er's canrifau, ac ond odid yn meddu henafíaeth uwch nâ'r un o'r diplomas a fu mewn arferiad yn mhlith cenedloedd eraill. Gweinyddid hwynt gynt gyda gofal a phryder mawr ; buont y pryd hwnw, a than reol- eiddiad do'eth, diau y gallant fod eto, o wasanaeth feì cymhelíai i ddiwyd- rwydd ac efrydiaeth fanoi. Ond trwy i'r Eisteddfod i ryw raddau ddirywio, a myned, mewn effaith, i ddwylaw rhai anghyfarwydd a dibrofìad, aeth. llawer o bethau mewn perthynas â hi i gamdrefn, ac ni ddirywiodd dim yn fwy na'r dull o weinyddu urddau. Y mae llawer yn cofio gyda pha ddiwyd- rwydd y byddid yn arwain ffyddloniaid ac anffyddloniaid, i'r cyleh cysegr- edig i dderbyn urddau ; ac nid oes ond ychydig, o'r rhai a deimlent wir ddy- ddordeb yn yr Eisteddfod, heb gael achos i ofidio oblegid yr annhrefn oedd wedi ymwthio i'r arferiad hwn, a gwelid rhai heb fod ganddynt un cymhwys- der i ymyraeth gyda pheth a ddylasai gael ei ystyried yn barchus, yn derbyn yr urdd o law y gweinyddwr. Bu hyn yn achos i iselu gwerth yr urddau hyny ; ac nid oeddynt, mewn gwirionedd, ond anfynych yn un amlygiad o fedrusrwydd, na chymhwysder, yn y rhai oedd yn eu derbyn. Nid oedd un arholiad yn cael ei wneyd, nac un ddarpariaeth na chymhwysder yn angenrheidiol. Yr oedd y doeth a'r annoeth, y medrus a'r anghelfydd, y bardd a'r ymhonwr, yn yr un dosparth ; a phob amäer yr hwn a feddai leiaf o ddawn, oedd fwyaf ei ymffrost. Bu hyn yn achos i lawer o'n llenyddwyr ymwrthod â hwynt, fel pethau hollol an- neilwng o'u harddeliad a'u cefnogaeth, ac er eu bod yn cael eu cydnabod yn mhob cymdeithas lenyddol, ac Eisteddfod, ac yn fynych yn briffeirniaid yn ein prif gyfarfodydd, eto parhänt i ymwrthod â'r urdd fel peth dìofrydedig. Y mae y cyffrôad Eisteddfodol, rai prydiau, yn gryfach nâ grym penderfyn- iad, ac ambell un ar ol enill, yn goddef cymeryd ei yru drwy y seremoni. " Qucesitam meritis sume suberòiam." Ond oblegid y diffyg cyffredin yn eu gweinyddiad, ac fod mwy, ond odid, o rai annheilwng, nac o rai yn meddu galluoedd uchel, yn mwynâu yr urdd- au, y mae rhai yn edrych arnynt fel teganau hollol diwerth, ac er y gallant hwy roddi atebiad boddâol i'r gofyniad— " Bathodyn am beth ydy~w?" CYF. .1.—EHIF. 3.^ 7