Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YR EISTEDDFOD EBBILL, 1864. YR EISTEDDFOD. Amcan yr Eisteddfod yw:— " Diwtllio a meithrin Barddoniaeth a Llenyddiaeth ; cliwilio, trefnu, a chadw cofnodion lianesyddol, a gweddillion llenyddol y genedl; cynorth- wyo i gyhoeddi gweithiau gwreiddiol, yn yr iaith Gymraeg; meithrin a dadlenu talent y Cymry; a defnyddio pob moddion eraill, o bryd i bryd, a fyddo yn debyg o dderchafu cyflwr cymdeithasol, moesol, a deallol y genedl." Yr Eisteddfod, ond odid, yw y sefydliad addysgiadol a llenyddo-1 hynaf yn Ewrob; y mae yn cael ei amgylchu â chofnodion hanesyddol pwysig, ac yn meddu gafael cryf ar deimlad y bobl. Nis gellir amheu, o ganlyn- iad, na fydd, ond ei defnyddio yn briodol, yn offerynol i ddyrchafu y genedl, mewn diwylliant moesol, a chynydd meddyliol. Mor fore a'r chweched ganrif, cawn fod Eisteddfod rwysgfawr wedi ei chynal yn Nheganwy, yn Ngogledd Cymru, lle yr oedd Taliesin Ben beirdd, a Beirdd Maelgwyn Gwynedd, yn ymgystadlu. Ac o'r amser bore hwnw, cynelid hwynt o bryd i bryd, mewn gwahanol fanau. Yn y flwyddyn 914, ffurf- iodd Hywel Dda, Brenin Cymru, reolau, yn y rhai y mae adranau yn nghylch dyledswyddau y Telynor Breninol, a dynodir yr alawon yr oedd ef i'w chwareu ar achlysuron neillduol. Yn yr unfed-ganrif-ar-ddeg, cyhoeddodd Gruffydd ap Cynan, Tywysog Gogledd Cymru, reolau i lyw- odraethu y Cerddorion; a bu i'r Eisteddfodau, am oesau, eu dal mewn bri a gweithredu wrthynt. Cynelid yr Eisteddfodau y pryd hwnw, gyda rhwysgfawredd mawr, dan nawdd y Tywysogion Cymreig. Yn y flwyddyn 1107, cynaliodd Cadwgan, mab Bleddyn ap Cynfyn, Eisteddfod yn Nghastell Ceredigion. Yn y flwyddyn 1177, cynaliodd Rhys ap Gruffydd, Tywysog Deheudir Cymru, un arall, yn yr un castell. Y mae Giraldus Cambrensis, yn siarad gyda chymeradwyaeth mawr, am fedr y telynorion, yn fuan ar ol hyny. Blodeuodd amryw feirdd, hyd CVF. I.—RHIF. I. 1