Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

UDGORN SEION, NBU Atttn n Aatnt Rhif. 14.] GORPHENAF 10, 1852. >{Cvf. IV. GWIRIONEDD AC IACHAWDWRIAETH. [O'r " Deseret News."] Ein pwnc yw Gwirionedd; ein gwrthddrych yw Tachawdwriaeth, W\A yw eymmwynasgarwch annyddorgar yn cyfansoddi unrhyw ran o gyfansoddiad y rhai cyfiawn ; eithr y maent hwy yn teímlo dyddordeb yn yr hyn oll a wnelont, a glywont, a deimlontj a archwaethont, neu a ymafiont ynddo. A phabeth yw y dyddor- deb hwnw ? Gochelyd y drwg, ac ymafaelyd yn y da. I ba ddyben? Fel yn y diwedd y cyrhaeddont iachawdwriaeth, Y mae llawer o bersonau anwybodus ac hunan-gyfiawn, y rhai nad adwaenant Dduw, ac nad ufyddhant i'w Efengyl, yn meddwl fod yn rhaid iddynt fod mor santaidd nes peidio teimlo dim dydd- ordeb mewn caredigrwydd, ffydd, gobaith, cariad, ufydd-dod, aco ganlyniad mewn iachawdwriaeth. Ychydig yn bresennol sydd genym i wneuthur â'r cyfryw; canys os gall un person fod mor gymmwynasgar ag i beidio teimlo dyddordeb yn ngwrthddrych ei ymlidiadau a'i ymdrechiadau, yna gall un arall, ie, pob person arall fod yr urt mor gymmwynasgar, ar yr un egwyddor; ac ni dderbynia un dyn a fu, &ydd, neu a fydd yn byw ar y ddaear neu yn y nefoedd, byth unrhy w gyfran o ddaioni oddiwrth fydyssawd wedi ei lenwi â'r fath gymmwynasgarwch ; y mae yn annyddor- gar, ac nis gall neb gael dim dyddordeb ynddo, at ddrwg neu dda. Hyn, ynte, yw dyben a bwriad gwirionedd—i hwylusu iach- awdwriaeth. Rhoddwch i ddynion boh daioni arall a ellir ei «nwi, a gwrthodnch iachawdwriaeth, a pha beth fuasai eu sefyll- /a ? Truenus, truenus yn wir, ie, i'r eithaf! Pa betb. y w i*ẃ 14