Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

UDGORN SEION, NEU ŵren n &uínt Rhif. 12.] MEHEFIN 12, 1852. [Cyf. IV. COFNODION CYNGHOR CYFFREDINOL NEILLDUOL iPrif Awdurdodau Cynnadleddau Prydeinig Etflwys lesu Giist 9 Saint y Dyddiau Diwedda/. [Parhad o dud. 177.] Prydnawn Dydd Gwener, Ebrill 9. ANÎ2RCHIAD olaf y llywydd f. d. richards. Anwyl Frodyr,—Yr wyf yn cyfodi o'ch blaen y prydnawn hwn mewn cryn wendid, i'ch anerch yngbylch sefj'llfa y gwaith yn y Cynnadleddau Prydeinig, ac i gynnyg i'ch ystyriaeth y ddysgeid- iaeth hono a ymddangoso i fod er daioni i chwi, ac a wasanaetbo fel maen-brawf i chwi yn y Cynnadleddau dros y rhai y gelwir chwi i lywyddu. Mae gwaith Duw eisoes wedi cyrhaedd i sefyll- fa o nerth a dylanwad yn y wlad hon, ac y mae, o flwyddyn i flwyddyn, yn cynnyddu ac yn ychwanegu, os nid gymmaint mewn rbifedi ac agwedd allanol, eUo mae yn cynnyddu mewn golygiadau ereill, ao felly yn gofyu mwy o ddoetbineb ac egni nâ phan yn ei fabandod. Mae dyn mewn un rhan o'i fywyd, weithiau yn tyfu i fyny yn dra main hyd nes y cyrhaeddo faint- îoli gwr, ac yna wedi y cyrbaeddo ffurf allanol neu ymddangos- iad gwr, y mae yn dechreu tewhau, ac yn ennill y sylweddol- rwydd hwnw ag sydd mor angbenrheidiol tuag at ymdrechiadau bywyd dyfodol. Pa beth bynag a fyddo ei fywyd tyfiadol, dylai gofal mawr gael ei gymmeryd yn ystod yr amser hwnw, rhag i'w gyfansoddiad corfforol gael ei niweidio. Y mae yn dra thebyg i hyny gyda gwaith Duw. Os sylwch ar y gwaith fel yr oedd yn 12