Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

FDGOHN SEION, NEU Ŵföt n ẃatnt* Rhif. 2.] IONAWR 24, 1852. [Cyf. IV. COFNODION CYMMANFA GYFFREDINOL Eglwys Iesu Grist o Saint y Dyddiau Diweddaf, yr hon a gynnal- iwyd yn y Boicery, Dinas y Lîyn Halen Fawr, Medi 7, 1851: [O'r "Frontier Guardian."] ¥n bresennol o'r Brif-lywyddiaeth—Brigham Young, Heber C. Kimball, a Willard Richards. Patriarch—Jobn Smith. O'r Deuddeg Apostol—Orson Hyde, Wilford Woodruff", G. A. Smith, ac E. T. Benson. Llywyddiaeth y Deg-a-thrugain—Joseph Young, B. L. Clapp, J. M. Grant, A. P, Rockwood,H.Herrimarj, Levi Hancocfe, a Zera Pulsipher. Llywyddiaeth yr Estynfa— Daniel Spencer, David Fullmer, a Willard Snow. Corwm yr Archoffeiriaid--John Young a Reynolds Cahoon. Uchel Gyng- hor yr Estynfa. Yr Esgob Llywyddol—Edward Hunter. Ys- grifenydd y Gymmanfa—Thomas Bulloclí. Galwyd y Gymmanfa i drefn gan y Llywydd Kimball, yr hwn a ddywedodd, os -oedd y bobl wedi talu eii degwm, y buasai Ysbryd Duw ar y Gymmanfa hon; ac hysbysodd y brodyr. na dderbyniai neb ei gynnysgaethiad, hyd nes y buasai weai taiti ei ddegwm yn llawn, Canwyd hymn gan y côr; gweddiwyd gan yr Henuriad Orson Hyde, a chanwyd. Yna y Llywydd Young a anerchodd y bobl ynghylch gwaith y Gyramanfa, a'r profiad ag oedd y bobl hyn wedi myned trwyddo, a dangosodd föd Mormoniaeth yn gynnwysedig o bob gwybod- aeth, pa un bynag ai yn y nef, ar y ddaear, neu yn uffern, ac y 'parh-a i chwyldroi ÿ byd hwn, hyd nes y byddo i holl deyrnas-