Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

.-■ ÜDGORN SEION. Nlii: J»emi u átâint. Rhif. 11.] MAI 24, 1856. [Cyi\ IX. MILFLWYDDIANT. GAN ÎHOMAS HARRIS, GYNT O I) R E - S I O R. [Parhii.l o (1u<1. 135] Wedi dangos ychydig ar natur y Milflwyddiant, awn rhagom yn awr i chwilio i arwyddion yr amseroedd, er deall pa bryd y daw y cyfnod gogoneddus hwnw. Ac i'r dyben hyny cyfer- bynwn sefyllfa bresenol y byd a'r dygwyddiadau mynedol wrth y prophwydòliaeihau a'u cyflawniad. Yn y ffordd hon y dywed- odd yr Iesu y gallasein adnabod pan y buasai ei ddyfodiad yn agos, hyd y nod wrth y drysau. Yr oedd rhai o'r saint gynt yn yr oes apostolaidd yn dys- gwyl y buasai y cyfnod hwn yn gwawrio yn eu hamser hwy ; o leiaf, yr oedd ar Paul ofn y buasai rhywrai yn twyllo y Thes- saloniaid, a rhag hyny efe a ysgrifenodd atynt, gan ddywedyd, '' Na thwylled neb chwi, oblegid ni ddaw y dydd hwnw hyd oni ddêl ymadawiad yn gyntaf." Ofer iddynt hwy yn yr oes hono ddysgwyl y Milflwyddiant nac Ail ddyfodiad Mab y Dyn hyd oni fyddai i'r Efengyl ymadael oddiar y ddaear. Beth, a oedd yr efengyl i gael ei chymmeryd oddiar y ddaear ar ol i Grist ei sefydlu cyny buasai iddo ddyfod yn ei Ailddyfodiad? Ydoedd; ac anghenrhaid yma yw dyfynu rhai o'r prophwydoliaethau ag sydd yn profì hyny cyn myned yn mhellach, fel y caffo y dar- llenydd gonest gyfleustra i ganfod fod eu cyflawniad wedi cym- meryd lle. 11 [Pris \g.