Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

UDGORN SEION, Mîl' Rmì\ 36.] TACHWEDD 18, 1854, [Cyf. VII. " GRAS CADWEDIGOL."_PA BETH YDYW ? (Dyfyniad o Draethawdyny Wasr;.) Bob amser braidd ag y ceisir gan grefyddwyr yr oes " dduw- iolfrydig" hon ufyddhau i'r ordinhadau a orchymynodd Iesu Grist, yr ateb a geir yw, " Nid yw o nemawr bwys o barthed i ordinhadau ond cael grâs cadwedigol, pethau allanol a dibwys yw ordinhadau a defosiynau, gellir eu gwneyd neu beidio, eithr cael calon newydd,—delw Duw ar yr Ysbryd—adenedig- aeth neu waith grâs ar y galon y w'r oll a ofyna Duw yn awr." Dyna ymguddfa miloedd o grefyddwyr, a'r hunan-gyfiawnder a wna orchymynion dwyfol yn ddifudd. Tra y caniateir fod y pethau yna yn dda yn eu lle, goreu po fwyaf; etto ymresymwn —os yw poblogrwydd yr haeriad hwn yn ddigonol brawf o'i eirwiredd ni fydd waeth er ei chwilio; eithr, gan fod cadwedig- aeth yn ymddibynu ar gael gras yn í, galon, buddiol i'r goreu ymchwilio a yw yn bosibl fod grâs yn nghalon y sawl a grêd y gosodiad hwn! Sylwn yn y lle cyntaf, fod "grâs," yn ol iaith yr ysgrythyrau yn gyfystyr â 'Thodd," " dawn," neu gyflwyniad o unrhyw fendith o eiddo Duw i ddynion; ac felly rhaid ei íod, fel pob rhodd arall yn sylweddol, os nad sylweddol y rhodd, diddim yw, gan nad ellir dirnad ond sylwedd a diddimdra, ac felly ni all fod yn " rliodd/' Dywedir mai " dawn Dyw yw bywyd tragy- wyddol," feliy rhaid fod bywyd tragywyddol yn sylweddol. Pan y dywedir fod yr Arglwydd yn rhoddi " grâs i'r gostyngedig," 36 phis 1^/.]