Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

UDGORN SEION, &cm\ j> Mníiít Ehif. 20.] MAI 27, 18^4, [Cyf. VII. DYFYNIAD O'R " HEN GEEFYDD NEWYDD." Dweyd bod yr arwyddion neu y doniau wedi cael eu rhoddi er sefydlu Cristionogaeth, sydd gyfystyr, mewn ffaith, â dweyd fod Cristionogaeth wedi ei rhoddi gynt er:ei sefydluei hun; ac haeru nad oes anghen yr unrhyw yn awr yw dweyd nad oes anghen y Gristionogaeth hono yn awr, yr hyn ni fÿddai fawr gwell nag anffyddiaeth o dan gochl, a chyfiawniad llythyrenol o'r brophwydoliaeth a ddywed,—" Daw yn y dyddiau diweddaf watwarwyr, a'u serch arnynt eu hunain," y " pentyrant iddynt ew hunain athrawon [anysbrydoledig, yn gwadu anghen yr ar- wyddion cyntefig,] a chanddynt rith dnwioldeb, eithr wedl gwadu ei gkym hi." Dynion analluog iawn i sefydlu gwir Gristionogaeth fyddai y cyfryw; ac mewn gwirionedd, ni all neb ond Duw sefydlu y Gristionogaeth wirioneddol, o herwydd bydd ei sefydlogrwydd hi yn gyfartal i'r sicrwydd a ddyry Efe, drwy yr arwyddion, canlynol i'w eu hufydd-dod i'w air drwy ei weision. Eu cristionogaeth eu hunain ac nid ei Grist- ionogaeth Ef a sefydlir hebddynt. Digon bellach, rhag meithder gormodol, er profì yr afresym- oldeb o ddweyd fod yr arwyddion yn rheidiol er sefydlu Crist- ionogaeth gynt, a.bod yr un arwyddion yn.afreidiol er sefydlu yr un Gristionogaeth yn awr. dywedir yn nesaf, os sefydlu cyfyndrefn ar y ddaear, sefsffurf heb ei grym a feddylir wrth sefydlu Cristionogaeth, dylai y rhai a haerant hyny brofi eu ibod.hwy yn cyd-ymffurfio â!r ffurf .eglwysig hono a geir yn jr 20 [pris \g.