Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

UDGORN SEION, NEÜ Rhif. 17.] MAI 6, 1854. [Cyf. VII. - ; , ......-.....-......~---------------r—-.-:■ ■:-----------—-~;——-;■—....... .. _m_—-_ PAHAM Y CERIR Y GWIRIONEDD? GAN X PRtF LYWYBD BRIGHAM YOUNG. Am ba beth y cerwch y gwirionedd? A ydyw oblegid y medrwch ddarganfod prydfertbwch ynddo, ac am ei fod yn gydrywioì i chwi; neu ynte o achos y meddyiiwch y gwna chwi yn reolwyr, neu yn Arglwyddi? Os y syniwch y cyrhaeddwch i allu ar y fath ddyben, yr ydych yn camgymmeryd yn fawr. Ystranc yw hyn o eiddo y gallu anweledig, y sydd ar led yn mhlith trigolion y ddaear, yn eu harwain ar gyfeiliorn, yn rhwymo eu meddyliau, ac yn gwyrdroi eu dealitwriaeth. Tybiwch fod ein Tad yn y nef, ein brawd hynaf, y Pryn- iawdwr adgyfodedig, Iachawdwr y byd, neu rai o Dduwiau tragywyddoldeb, yn gweithredu ar yr egwyddor hon, i garu gwirionedd, gwybodaeth, a doethineb, am eu bod oll yn alluog,' a thrwy y gallu hwn y medrent ddanfon diafliaid i uffern, poeni pobl y ddaear, arfer penaduriaeth drostynt hwy, a'u gwneyd yn druenus wrth eu pleser; hwy a beidient a bod yn Dduwiau; ac mor fuan ag y mabwysiadent ac y gweithredent ar y fath egwyddorion, hwy a ddeuent yn ddiafliaid, a chaent eu taflu i ìawr mewn amrantiad llygad; peidia eangiad eu teyrnas, a deuai eu Duwdod i ddiweddiad. Iaith, i drosglwyddo yr oll o'r gwirionedd, nid yw yn bodoli. Hyd y nod yn y Beibl, ac yn yr holl lyfrau a ddadguddiwyd o'r ;iief Á ddyn, mae yr iaiŵ yn fethiedig i drosglwyddo yr holl wir 17 [pkis Ig.