Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

UDGORN SEION, NEÜ Riiii?. 8.] CHWEFROR 25, 1854. [Cyf. VII. Y DUW A ADDOLIR!—PWY YW? [Parhad o dud. Î06.] Amlwg- yw weithan ryngu bodd y Duwiau tragywyddol, ar í'od dynion wedì eu eynnysgaeddu a galluoedd cyfaddas i gyn- nyddiant hyd anfeidroldeb—nad llai dyben oedd ganddynt yngreadigaeth dynion na'u gwneyd yn Dduwiau, i fod yn ogyf uwch a'u hunain yn ngyfiawnder y Duwdod; yn nesaf, ceis- iwn brofì, Pa fodd y gwneir dynion yn Dduwiau! Rhoed rhydd ewyllys i bob dyn, i bob creadur, ac i bob sylwedd bywydol; eu hufydd-dod gwirfoddol i'r iawn gyfarwyddiadau a roddir iddynt, yn unig a duedda i berffeithio a dedwyddoli y naill a'r Uall a'r oll o bob peth gweledig ac anweledig, drwy holl greadigaethau y Duw a lywydda yr oll. Gosododd eu deddfau priodol i'r haul, y lloer, a'r planedau; i'r môr a'i bysg, i'r awyr a'i ehediaid, y ddaear ai hymlysgiaid, ac i ddyn hefyd: amrywia deddfau yr oll yn gyferbyniol i'w galluoedd, a'u deall i'w cadw. Perffeithiad yr oll, neu gael mwy o'r Duwdod ynddynt yw y dyben; a neshâd at Dduw fydd y canlyniad o ufydd-dod pob un, yn mhob cyleh; megys, o'r ochr arall, pellhâd oddiwrth Dduw, sef bod llai o briodoliaethau y Duwdod ynddynt, fydd y can- lyniad o bob anufydd-dod. 0 barthed i holl hîl Adda, dywedir *' nad oes enw arall wedi ei roddi yn mhlith dynion, trwy yr hwn y mae yn rhaid i ni fod yn gadwedig ond Iesu Grist, a hwnw wedi ei groeshoelio." Ufydd-dod i'w orchymynion Ef yn mhob peth, a ddyga ei ufyddion yn feddiannol ar ei holl S [pris \g.