Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

UDGORN SEION, <#emt t #ítfttt. - _------- ■■■—,, : ■ smt Rhif. 6.] CHWEFROR 4, 1854. ' [Cte. VII. , ■ . ■ » Y DTJW A ÄDDOLIR 1—PWY YW? Y pwysigrwtdd o iawn ddeall yr athrawiaeth a gyhoeddir yn y Mtllennial Star, cyf. xv, rhif. 48, a'n cymhell i wneyd y sylwadau canlynol, yn ychwanegol at y llawer a gyhoeddwyd eisoes yn yr Udoorn, o waith O. Pratt, ynghyd â llawer o fanau ereill, ar ivrthddrych ein addoliad. Yn ol a ddarllenwn ni, cyd-dystia holl ddadguddiadau yr oruchwyliaeth ddiweddaf hon, a'r oll a ddarllenwn yn ysgryth- yrau yr Hen a'r Newydd Destamentau, mai Duw yw yr urig wir a theilwng wrthddrych addoliad pob creadur, yn y nefoedd ac ar y ddaear; a chadarnheir hyn yn yr athrawiaeth gyfeir- iedig uchod gan Brigham Young. Hyd yn hyn, ynte, nid oes wahaniaeth yngliylch pwy yw gwrthddrych eu haddoliad, rhwng Saint a sectariaid o bob math, mwy nag y sydd rhyng- ddynt hwythau â'r Pabyddion, y Mahometaniaid, a'r Paganiaid oll ar a welsom. Cyfaddefant oll mai Dnw a geisiant ei addoli. Eithr ynghylch pwy neu fath yw Duw, ceir llawer o wahanol dybiau, pa rai a ymddangosant yn groes i'w gilydd. Creda y mwyrif o'r Protestaniaid, fel y dywed yr Athenesian creed, nad oes i Dduw " gorff, rhanau na nwydau." Eithr haera y Saint y bod Duw, 'ie, " Duwiau lawer," ac i bob un o honynt ei " gorff, a rhanau o gorff," a "nwydau" hefyd. 0 herwydd y gredin- iaeth hon, cyhuddir y Saint o fod yn addoli person neu berson- au, a'u bod yn diraddio Duw i " fod ar lun dyn Hygredig;" geiwir hyn yn " gabledd," er- mai dyfyniad ysgrythyrol ywj a ■5 £pris Ij}1,