Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

í SEION, Ehip. 1.] IONAWR 7, 1854. [Cw. VII. CYFARCHIAD GOLYGYDDOL. Htbarcii Ddarllenydd,—Wedi bod yn absennol o'r cyleh Golygyddol am burap o flwyddi, dyma ni etto yn hyderus antnrio iddo, gau ddymuno o'n calon i chwi "flwyddyn newydd dda." Mewn amrywiol gylchoedd cyfarchasom amrywiol ieithoedd, tu yma a thu draw i foroedd yn y blwyddi mynedol; eithr mil gwell genym ddychwelyd i gyfareh yn wythnosol, ein brodyr unwaed yn iaith ein mam; ac hyderwn fod genym loffion a'u llesola, serch bod yn mhell dros fryniau creiglyd, hyd ddyfTrynoedd y mynyddoedd yn eu hymofyn. Teg yw çyfaddef ar y dechreu, nad Golygydd hunan-wneuthurol y'm, ondwediein hwthio i'r cylch-dro hwn. Gan na wyddom weli nag ufyddhau i'n gosodwyr doethach, yn hyn fel yn mhob peth arall, deuwn i'ch plith heb nemawr yaiffrost, pa beth a wnawn, na pha bethau ar ni ddywedwn wrthych o wythnos bwy gilydd. Oes y rhyfeddodau- -dydd yr hynodion a welir yn argraffed- ig ar bob peth o'n hamgylch ni; a wado wyrthiau, edryched a gweled "gryddion a chobleriaid," yn tori allan yn dduwinydd- ion campus—" glowyr a mwnwyr" yn synu " gwlad oleu," ac yn. hu^dp torfeydd o ddysgedigion i redeg arc eu hol—y " teiliwr a'r tinçier," fel eu gelwir, yn swyno torfeydd o bob gradd â çhyssondeb eu cyfundrefn newydd! Gan fod y gôf yn gadael ei forthwyl a'i eingion, a'r saer ei fwyall a'i lif, i gyhoeddi yr oruchwyliaeth ryfedd; a chan fod y pysgodwyr hwythau unwaith etto, yn oes y byd, yn gadael y rhwydau, ac yn rhedeg 1 [pris ig.