Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

3EI0N, Rhip. 26.] RHAGFYR 24, 1853. [Cnr. VI. PRIODAS NEFOLAIDD. [Parbad o flnd, 404.] HJieol lieg,—Na ddywed yn ddrwg am dy wr wrth neb o'r lleill yn y teulu, i'r dyben o ddallbleidio eu meddyliau yn ei 'erbyn; oblegid os hysbysir ef o hyny, niweidirdi yn ei ystyr- iaeth. Na siarad ddrwg chwaith am neb o aelodau y teulu; o herwydd y dinystria hyny eu hymddiried ynot. Gochel bob rhagrìth; canys os cymmeri arnat i garu dy wr, ac i anrhyd- edduapharchu ei wragedd, pan yn bresennol, eithr siarad yn anmharchus am danynt pan yn absennol, edrychir arnat fel rhagrithydd, fel baldorddydd, ac fel dynes yn gwneuthur drygau, ac ysgoir di fel yn fwy peryglus nâ gelyn agored. A pheth sydd etto yn fwy gwrthunus yw baldorddu allan o'r 'teulu, a cheisio creu gelynion yn erbyn y rhai hyny yr wyt ti yn gyssylltiedig â hwynt. Dylid ystyried y fath bersonau, nid yn unig yn rhagrithwyr, ond yn fradychwyr, a dylid sarhau «u hymddygiadau gan bob carwr cyfiawnder. Cofia hefyd fod mwy o ffyrdd nag un i faldorddu; nid bob amser y dygwydd, am y personau hyny ag ydynt liyfaf yn eu cyhuddiadau, eu bod y goganwyr mwyaf enbydus; ond y fath a gymmerant arnynt yn Thagrithiol, nad ydynt yn ewyllysio niweidio eu cyfeillion, ac ar yr un amser, a awgrymant yn dduwiolaidd, mewn dywediadau tywyll ac anghyfeiriol, rywbeth câ'i duedd i adael rhagfarn hynod o antfafriol yn eu herbyn. Gochel y fath ysbryd fel y gwnelit wârioneddol byrth ufiern. 2% [pris l^.