Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

UDGORN SEION, Ní!ü &tmx # Aatnt Eiiif. 25.] RHAGFYR 17, 1353. [Cra VX PRIODAS NEFOLAIDD. [Parhad o dud, 387.] Fel y cenedlodd Duw Dad gorff cnawdol Iesu, 'felly Efe, cyn ì'r byd ddechreu, a genedlodd ei ysbryd. Fel y gofynai y corff fam ddaearol, felly y gofynai ei ysbryd Fam nefol. Fel y cym- deithasodd Duw yn righyfiwr gwr gyda'r fam ddaearol, felly yr Tin modd y cymdeithasodd yn yr unrhyw gyflwr gyda'r un nefol; pethau daearol ydynt ar ddelw y pethau nefol; ac j mae yr hyn sydd amserol yn nelw yr hyn sydd dragywyddol; neu, mewn geiriau ereill, mae y deddfau cenedliad ar y ddaear yn ol trefn y deddfau cenedliad yn y nef. Eithr os oes genym Fam nefol yn gystadl â Thad nefol, ai nid iawn y dylem addoli Mam ein ysbrydocdd yn gystadl â'r Tad? Nage; oblegid mae Tad ein ysbrydoedd wrth bon ei dylwyth, a gofynir i'w wrag- edd a'i blant Ef i roddi yr ufydd-dod perffeithiaf i'w Pen mawr. Cyfreithlawn yw i'r plant addoli Brenin y nef, ond nid " Brenines y nef." Ceryddwyd plant Israel yn llymdost am offrymu i "Frenines y nef." Er ei bod yn dra dyrchafed- ig ac anrhydeddas megys priodasferch anwylaidd y Brenin mawr, etto, gan belled ein bysbyswyd, ni orchymynwyd y plant erioed i weddio arni hi neu ei haddoli hi. Gweddiodd lesu ar ei Dad, a dysgodd i'w ddyscyblion wneyd yr un modd; ond nis dysgir ni yn un man fod lesu wedi gweddio at ei Fam nefol Ef; ni weddiodd chwaith at yr Ysbryd Glân megys ei I)ad. Pe ei cenedlid Ef gan yr Ysbryd Glân, yna Efe jí'i ,25 [>nis \g.