Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

UDGORN SEION, NRU ^mn jt> 0uint Ehif. 23.] EHAGEYE 3, 1853. [Cyf. VI. DYEYNIADAU 0 AIL EPISTOL OESON PEATT, AT Y SAINT GWASGAREDIG YN YR TJNOL DALEITHIAU A'R YNYS- OEDD PRYDEINIG,—YN ANERCH. [O'r " Seer."] Ebodyr yn yr Offeiriadaeth, ymgedwch yn bur a difrycheulyd gerbron Duw; ac os gwyddoch am unrhyw ddyn yn yr Eglwys, eisoes yn meddu gwraig, yn ceisio ymgyfammodi ag unrhyw fenyw arall, gwybyddwch yn ddiau ei fod wedi troseddu; ac onid edifarha, torer ef allan o'r Eglwys. Nac ymwnewch ddim â'r personau hyny sydd yn ymyraeth ag ysbrydion dewiniaeth, dan yr enwau o " Eesmeryddiaeth," " Electro-Biology," " Ysbryd-gnociadau," " Bwrdd-symudiad- au," " Ysgrifen-gyfryngau," &c.; canys hwy a dywyllant eich meddyliau, ac a'ch arweiniant i ddystryw: ysbrydiony tywyll- wch ydynt, wedi eu gollwng yn rhyddion ar y genedlaeth hon, oblegid eu drygioni; a hwy a amlhant yn fwy-fwy ar y ddaear hyd ddyfodiad Crist, megys y rhagfynega yr ysgrythyrau. ******* Cyflawn ddiwallwch eich hunain â phob math o lyfrau ysgol buddiol i'ch plant, ynghyd â llyfrau hanesiol a chelfyddydol o bob desgriflad; eithr gadewch ffug-draethodau a gau-lyfrau ar ol i foddio archwaeth lygredig plant y tywyllwch, eneidiau y rhai a ymhyfrydant mewn celwyddau a ffug-hanesion, yn fwy o lawer nag yn ngwirioneddau mawrion y nef. 23 [pris \g.