Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

ÜDGORN SEION, NI'.U éktm î> «#>atnt. Rhif. 18.] HYDREF 29, 1353. [Crr. VI. AT BARCHEDIGION Y BEDYDDWYR ETTO. Mu cyh.uddiaa.au yn erhyn Dewi Eleed Joîtes cüi gynnuîìeidfa, yn cael eu hegluro. Mygedawg Frawd Davis,—Yn gymmaint ag i mi amrai weithiau yn ostyngedig i wahodd y Parchedigion, ac wedi y cyfan wrthod o honynt, gìin gywilydd, gyhoeddi y cyhuddiadan yn herwydd pa rai y torais fy nghyssylltiad â'r Bedyddwyr. Yn bresennol, gwnaf hyny fy hunan, a chant hwythau lygadrythu, a chwyrnu, ohlegid mae eu gwrych heh ostwng byth, er i mi fod yn deg, ac yn deg iawn wrthynt hefyd, yn ddirgel a chy- hoedd, ar eiriau a thrwy lythyrau, a hyny gyda phob dymuniad da; o herwydd tosturiwyf wrthynt yn eu sefyllfa druenus. Teimlwyf yn ddwys dros rai o honynt, ag ydynt yn barod wedi credu, ond fod yr elw a'r gyflog yn attalfa iddynt i ymuno â'r Saint; ereill ag anrhydedd bydol a hunan-glod yn rhwystr iddynt. Gresyn fod dynion fel hyn, yn gymmaint comards, fel yr ofnant sefyll o du y gwirionedd. Ha wyr, frodyr, a Chymry, trechwch rwystrau, a deuwch i Eglwys Iesu Grist, gan ym- ddiried yn Nuw y Saint, a chewch ryddid a nerth, fel y bydd- och lawen a hyfryd o dan bob amgylchiad ; yr wyf fl yn gwybod hyny, a dymuniad genyf am eich cael i feddiant o íÿwyd tragywyddol. Ereill o honynt a wrthryfelant â'r gwir- ionedd, gan ymgyndynu yn gildyn afrosgo, mal peymynent er pob peth, draws-wyro barn a chyfiawnder, a sathru y gwirion- edd dan draed yn sarn, yn holiol ddiystyr o fod Duw y Saint yn 18 [ruis l^f.