Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

UDGOItN SEION, NEU ŵeẅt b #Aäjfc Rhiît. 17.] HYDEEF 22, 1353. .[Cnr. VI. Y DRYSORFA YMFUDOL BARHAUS. [Allan o'r " Millennial Sta,r," Hyd. 22,1853.] Mae yn dyfod yn íwy-îwy amlwg, braidd yn feunyddiol, fod calonau y Saint tlodion yn cael eu troi yn effeithiol at Gwmpeini y Drysorfa Ymfudol Barhaus, fel eu hunig obaith o waredig- aeth o ororau Babilon. Mae y llwyddiant rhyfeddol a ddilyn- odd y cyflawniad o'r mesurau a fabwysiadwyd gan y cwmpeini hwnw, oddiar ei reoleiddiad, ac yn neillduol y ddwy flynedd ddiweddaf, yn yr hyn a wnaethwyd dros y Saint Prydeinig, yn achosi iddynt hwy i ymddiried yn ymddibynol ar ei allu, trwy fendith Duw, i effeithio y dyben sydd ganddo mewn golwg. Mae yr apeliadau aml a wneir atom ni am gymhorth o'r ffynnonell hono, yn ddiau â thuedd i ennill ein cydymdeimlad mwyaf; eithr pan ddeuwn at y prawf, cawn allan y gofyna fwy nâ chydymdeimlad i effeithio ymfudiad y tlodion. Mae yn rhaid y gŵyr y Saint fod helaethder ein llafur ni yn hyn, yn ymddibynu yn benaf ar eu haelioni hwy yn ein diwallu â modd. Pwy na wnelai eu goreu i gyfranu tuag at y gwaith gogonedd- us a wneir trwy offerynoldeb y Drysorfa Ymfudol Barhaus? Gallwn hysbysu yn awr i'r Saint fod y Llywydd yn Seion wcdi trefnu er gosod yn ein dwylaw ni gryn swm o arian, i gael ei defnyddio er ymfudo y tlodion o'r wlad hon, y tymmor dyfodol. Sicr ydym y pâr hyn i galonau y Saint lamu o iawenydd, am fod yr Arglwydd fel hyn yn ychwanegu y rhwydd- ineb i ymgasglu; a gobeithiwn y rhydd y Saint yn Mhryd- 17 [pris \g.