Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

UDGORN SEION, NBU ŵttm k ŵaínt Ehif. 16.] HYDEEF 15, 1353. [Cyf. VI. BEDYDD. YMDDYDDAN RHWNG TAENELLWR, BEDYDDIWR, A SANT. Taenellwr—Nid wyf fi yn ystyried fod dim byd o bwys mewn bedydd; ond mae yn wir y dylem ddilyn yr esiamplau a roddwyd i ni gan Grist a'i apostolion. Cael gwreiddyn y mater yw y pwnc; oblegid pa leshad all fod mewn ychydig neu lawer o ddwfr? Bedyddiwr—Dim byd o bwys mewn bedydd, aîe? Oes, mae y pwys mwyaf ynddo, a hyny a gewch chwi a minnau weled yn y byd arall. Ond am nad oes pwys mewn taenellu baban- od, mi a'ch credaf; ond na ddywedwch wrthyf fi, nad oes pwys yn y bedydd sydd o osodiad Crist, canys nis gallaf eich goddef. Mae hyny yn hollol groes i'm grân. Taenellwr—Yr ydych chwi y Bedyddwyr yn gosod llawer gormod o bwys mewn bedydd: amryw weithiau y clywais eich pregethwyr yn taeru nas gall neb fyned i niewn i deyrnas nefoedd, heb gael ei drochi genych chwi., Öch fi! mae hona yn hen athrawiaeth gâs. Beth, ai tybied nad oes neb ond Bedydd- wyr yn gadwedig! Gadewch mai trojíni sydd yn iawn (yr hyn nid wyf fi am fynyd yn gredu), e1^ŵi%idylech gondemnio pawb sydd yn barnu fel arall. $r ydyeh ehwi am osod eich hunain allan fel rhai anflTaeledig^yn gwybod y cyfan. Ond pa le y cawsoch eich hol^ wybodaeth a'ch sicrwydd? Onid oes genym ni yr un Bei^fa,1^>withau? ac oni fedrwn ddarllen, a barnu drosom ein hunain, fel chwithau. Nid ydych chwi wedi 16 , ■> [pris l^.