Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

ŵmtt u ŵuíttb Ehip. 12.] MEDI 17, 1353. [Crr. VI. CYEAMMODAU—GAIE O GYNGHOE. Mae yr Arglwydd wedi agor yr oruchwyliaeth fawr ddiweddaf hon trwy adferyd y Cyfamraodau Tragywyddol i ddyn, ae y mae cyfammodau yn ran arbenig o gynìlun yr iachawdwriaeth. Mae i hob cyfammodau eu rhwymedigaethau, ac y mae cyf- lawniad ffyddlawn o'r rhwymedigaethau hyny yn dwyn ben- dithion a gwobrwyon penodol. Eithr o'r ochr arall, pan dorir cyfammodau, ac yr anmherchir eu rhwymedigaethau, y mae cospedigaethau, yn gyfartal mewn maintioli i natur a phwysig- rwydd y cyfammodau a dorir, yn cael eu gweinyddu. Derbynir bendithion iachawdwriaeth trwy rinwedd cyfam- mod. Pan gyfammodo dynion i gadw gorchymynion Duw, efe a rodda iddynt o'i Ysbryd; ac wrth gadw rhwymedigaethau j cyfammod hwnw, trwy dderbyn yr ordinhadau, y mae per- thynas o'r cymmeriad mwyaf dyrchafedig yn cael ei ffurfio. Os yw person yn anrhydeddu y berthynas hono fel ag i gael bendithion ei gyfammod, yr Arglwydd yn fuan a ddadguddia fendithion a breintiau mwy, y rhai y gall y person eu mwynhau yn y teulu trwy fyned dan rwymedigaethau cyfammod arali yn gyfartal mewn pwysigrwydd i'r anrhydedd a'r ffafr ag sydd i'w mwynhau; ac nid yw yr egwyddor yii aros yma, eithr y mae cyfammod yn dilyn cyfammod, hyd nes y byddo dyn, trwy ei ffyddlondeb iddynt, yn dyfod yn un â Mab Duw—yn gyd-etifedd i etifeddiaeth y Tad. Yn awr, y mae hyn yn an- rhydedd mawr, i ddyfod yn etifedd cyfreithlawn i deyrnas- 12 [i'RiS \g.