Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

UDGORN SEION, NEU &eren n #atut Ehif. 11.] MEDI 10, 1353. [Cyr. VI. Y PROFEDIGAETHAU BYCHAIN. Mae y byd yn Uawn o brofedigaethau mawrion a bychain, ond y rhai mwyaf lhosog, a'r rhai mwyaf parod i'n hamgylehynu, yw y profedigaethau bychain. M#e dynion yn gyffredin yn edryeh am y rhai mawrion o bell, tra y mae y rhai bychain bob amser wrth eu hymyl, ac yn cael eu gadael ganddynt yn rhy ddisylw. Mae eisieu i ni wylio rhag pob profedigaeth, pa un bynag ai mawr neu fach a fyddo; mae profedigaeth fechan mor alluog i'n niweidio â phrofedigaeth fawr, a dylem ochelyd rhag y naill fel y llall. Wrth rodio ar hyd heolydd dinas, mae mor beryglus i ni gael ein niweidio weithiau trwy sangu ar groen orange, â phe tarawem ein hunain yn erbyn rhyw wrth- ddrych mwy; ac efallai mai wrth daro ein troed yn erbyn careg fechan, yn y wlad, y cawn y cwymp mwyaf, tra yn edrych oddiamgylch am ry w beryglon mwy. Felly y maegyda y Saint yn fynych : tra y maent yn edrych yn mlaen at ryw brofed- igaeth fawr a fwriadant ei gwynebu, gorchfygir hwy yn gyntaf gan brofedigaethau llawer llai eu maínt, a dichon na ddeua y brofedigaeth fawr byth i'w cyfarfod. Mor lleied sydd yn ddigon i brofi dyn! mor rhwydd yw ei demtio! Nid oes achos ei gadw mewn anialwch, am ddeugain niwrnod heb fwyd, ac yna i ddiafol ddweyd wrtho am droi y ceryg yn fara. Na, gosodwch ef i eistecld yn olaf wrth fwrdd llawn o ddanteithion, ac hwyrach y bydd hyny yn brofedigaeth a effeithia arno am fiwyddyn. Mor wabanol i'n Harglwydd, 11 [feis \g.