Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

ÜDGORN SEION, NEU &tvtn \> &m\h Rhif. 7.] AWST 13, 1353. [Cyf. VL COFNODION CYMMANEA GYEFREDINOL EGLWYS IESU GRIST 0 SAINT Y DYDDIAU DIWEDDAF, A gynnaliwyd yn Ninas y Llyn Halen Fawr, ar y Gfed dydd o Ebrìll, 1853. [Parhad o dnd, 86.] Ebrill 7, 1853.—Galwyd y Gymmanfa i drefn gan y Llywydd Young, am chwarter i ddeg yn y boreu. Canwyd hymn gan y côr. Gweddiwyd gan Erastus Snow. Canwyd. Y Llywydd Yoüng a roddodd y testun—set o heyrn tân, a wnaed gan y brodyr, allan o'r haiarn brodorol yn swydd Haiarn, hefyd dernyn bychan o fetel, yn edrych fel arian, ar yr hwn nid oedd aguafortis yn efleithio dim, a'r hwn a gafwyd yn ngwaelod y ffwrnais; ac, meddai ef, nid ydym yn ceisio gan neb mwyach i fyned i swydd Haiarn. Benjamin L. Clapp a sylwodd, " Yr wyf fi wedi bod am beth amser mewn hwyl dra rhyfedd—yn wasgedig fy ysbryd, eithr ni wnaethym ddim yn ddirgel, ac ni chablais enw Duw;" ac efe a ofynodd gan y Saint i faddeu iddo, fel y gallai un- waith yn ychwaneg'Twynhau Ysbryd Duw ; a diolchodd i Dduw am iddo gael ci geryddu, gan i hyny fod er ei les; yr oedd ef am sefyll yn ei ran a'i le, a mawrhau ei swydd: yr oedd yn teimlo yn well y diwrnod hwnw nag y teimlodd yn y ddwy flynedd ddiweddaf. Y Llywydd Yodng a ofynodd i'r brodyr a'r chwiorydd oa 7 [pris ìa.