Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

UDGOIIN SEION, NEU 3tvm yy &aint. Rhif. 3.] GORPHENAF 16, 1353. [Cra\ VI. COFNODION CYMMANFA GYFFREDINOL EGLWYS IESU GRIST 0 SAINT Y DYDDIAU DIWEDDAF, A gynnaliwyd yn Ninas y Llyn Halen Fawr, ar y &fed dydd oEbriìl, 1853. (Allan o'r " Deseret News.") Nis gellai dydd Mercher, y 6fed o Ebrill, 1853, wawrio yn ■ddydd mwy hyfrydol nag y gwnaeth, nac yn fwy wrth fodd saint neu angylion. Danfonodd y dyffrynoedd pellenig eu pres- wylwyr allan, a'r dyffryn hwn a heigiodd allan ei filoedd ; ac ni welwyd golygfa fwy gogoneddus er ys canrifoedd, nag a welwyd yn Ninas y Llyn Halen Fawr heddyw. ' • Yr oedd baniar genedlaethol Deseret yn chwifio yn yr awel» Côr Pres Nauvoo, Perorwyr Cadben Ballo, a'r Perorwyr Mil- wraidd, a fywiogent yr awyr â'u tônau seinber. Gwnaeth y Siher Grcys ymddangosiad anrhydeddus; a'r manwl-wyr, gan fod yn ffyddlawn i'w dyledswydd, oeddynt wrth eu galwedig- aeth yn foreu. Yr heddgeidwaid hefyd, o dan reolaeth effeithiol Cadben Hardy, oeddynt wrth eu gwaith ar yr amser penodedig; ac yr oedd gwynebau y Saint mor llawen a siriol â phe buasai pob un wedi cael ei anrhydeddu ag ymweliad gan angel. Felly y dechreuwyd Cymmanfa Gyffredinol Eglwys Iesu Grist o Saint y Dyddiau DÌAyeddaf yn Ninas y Llyn Halen Fawr, yr hon a alwyd i drefn yn y Taberuacl, gan y Llywydd Young, am ddeg yn y boreu, 3 [pris ìg.