Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

UDGORN SEION, NEU Rhif. 22.] MAI 28, 1853. [Cyf. V. DIRGELEDIGAETHAU I EREGETHWYR Y SAINT! "O! dywedwch i ni ddirgeledigaethau y deyrnas!" raeddir. " Ië, dowch i ni glywed am y peth hyn a'r peth arall yn Seion," yw y cwestiynau parhaus a lanwant ein clustiau er pan y dych- welasom i'n gwlad. Y mae awydd arnom foddio y cyfryw hyd y gallom hefyd. Wel, dechreuwn gyda y peth iawn yn gyntaf, a dywedwn wrthych chwi, anwyl gyd-swyddwyr yn nheyrnas Dduw, a chyd-gyfranogion o offeiriadaeth Iesu Grist, pregethwch ffydd, edifeirwch, a bedydd er maddeuant pechodau, i bawb yn mhob man, ac ar bob amser lle y mae anghen byny. Hyn yw y peth cyntaf, pwysicaf ac ardderchocaf a'r dirgeledigaethau mwyaf blasus a rhyfeddol o bob peth i'r gwrandawwr gonest. Heb hyn nid oes dim arall a ddywedwn yn cael ei ddymunol effaith—dyma oin cenadwri a'n braint—hyn yw baich ein dyledswydd i Dduw a dynion. I hyn ein danfonwyd—wrth wneyd hyn y cawn fwyaf o Ysbryd Duw pan safom uwch ben dynion. Y mae y ffordd i gael maddeuant pechodau yn gymmaint dirgelwch yn ngolwg ein cyd-ddynion, fel y mae holl ddoethineb ddynol yr oes hon, a'r oesoedd mynedol er ys canrifoedd, wedi methu ei gael allan : eanys," rbyngodd bodd yn noethineb Duw, nad adnabu y byd trwy ddoethineb [ddynol] mo Dduw." Un peth yw bod heb «dnabod trefn Duw i gymmodi dyn ng ef ei hun, a bod heb ad- nabod Duw; oblegid trwy ufydd-dod i'r drefn hono yn unig yr adnabyddir Duw. Gwelir, ynte, mai y dirgelwch cyntaf a'r pwysicaf i ni ddysgu i'r byd yw, mai trwy fedydd y mae cael 22