Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

TJDGORN SEION, NEU Rhif. 17.] EBRILL 23, 1853. [Cyf. V. PRIODAS NEFOLAIDD. [Parhad o dud. 2S7.] Os yw y Cenedloedd yn ystyried Friodas Batriarchaidd yn"frych- euyn" ag sydd wedi myned i lygaid y Saint, bydded iddynt hwy, cyn yr anturiant ei dynu allan, i ryddhau y trawstiau mawrion sydd yn eu llygaid eu hunain; ac yna hwy a ddysgant fod yr hyn a dybient hwy yn frycheuyn, mewn gwirionedd yn sefydliad dwyfol, yr hwn yr ymarferyd ag ef gau y dynion santeiddiaf erioed a fuont byw yn yr amseroedd gynt, dan nawdd a chym- meradwyaeth yr Hollalluog. Mae traddodiad yn achosi i bersonau a chenedloedd " hidlo ytuybedyn, a llyncu carnel." Gwaeddant allan megys pe byddent yn cael eu dychrynu allan o'u synwyrau, o herwydd fod tiriog- aeth yn ymarfer â phriodas gyfreithlawn yn ol y cynllun a rodd- wyd o'u blaen yn yr Ysgrythyrau ; eithr gallant lyncu yn lled rwydd, heb hraidd roddi ochenaid, garthfeydd halogedig, truenus, a ffieiddiaf drygioni, ag ydynt yn fl'ynu i raddau dychrynllyd yn yr holl drefi mawrion, dinasoedd, a phorthladdoedd, yn mhlith y Cenedloedd. Gwnai un ffau o halogrwydd felly,yn yr amseroedd gynt, dynu i lawr farnedigaethau trymaf yr Hollalluog ar holl genedl Israel, hyd nes y symudent y drwg, wreiddyn a changen, allan o'u mysg. Ië, hyd y nod am un achos o odineb, fe gafodd braidd holl lwyth Benjamin eu dinystrio, a hyny hefyd trwy orchymyn Duw. (Gwel Barnwyr xix, xx, xxi). Ond yn awr, gellir cael degau o filoedd o buteiniaid cyhoeddus mewn un 17