Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

UDGOHN SEION, SliU &m\x k ẃaíut* Rhif. 15.] EBRILL 9, 1853. [Cn, V. PRIODAS NEFOLAIDD. [Parhad o dud. Ì19.] Yn yr holl ddyfyniadau blaenorol o ddadguddiadau hen a diweddar, gail pob un weled y canlyniadau erchyll sydd yn cyfodi oddiwrth yr ymwneydlleiaf â'r chwantau pechadurus hyn. Y personau hyny a oddefant i feddyliau anrhinweddol ddyfod i mewn i"ẁ calonau, ac a'u mynwesant yno am fynyd, a gânt eu hunain dan gondemniad; y maent wedi tori cyfraith Duw; maent wedi ymhalogi trwy eu meddyliau drygionus, ac oni edi- farhant, gwna yr Ysbryd ymadael oddiwrthynt; canys nid yw yr Ysbryd Glân yn trigo mewn temlau halogedig—a hwy a adewir mewn tywyllwch, a'u ffydd a ymfarweiddia, a llenwir hwythau ag ofn, ac yn y diwedd teflir hwy i lawr i uffern. Mae Saint y Dyddiau Diweddaf dan fwy o rwymau nag un- rhyw bobl arall ar yr holl ddaear, i gadw eu hunain yn bur a rhinweddol gerbron yr Arglwydd—i ymgadw rhag godineb, put- eindra, penrhyddid, pob cyssylltiad anghyfreithlawn, pob aflen- ■did, pob chwantau cnawdol, pob dymuniad anrhinweddol ac halogedig, a rhag pob meddyliau cnawdol a serchiadau anianol; canys yr ydym wedi cael ein rhybyddio yn ffyddlawn, drachefn a thrachefn, trwy lais y [Prophwyd a'r Dadguddiwr mawr hwnw, Joseph Smith ; yr ydym wedi cael ein rhybyddio trwy Jais ys- brydoliad—trwy lais angylion—trwy laís hen brophwydi America, gan lefaru megys pe byddai oddiwrth y meirw, trwy gyfrwng eu hen gof-lyfrau—yr ydym wedi cael ein rbybyddio trwy lais Duw, 15