Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

UDGORN SEION, NEU Rhif. 5.] IONAWR 29, 1853. [Cyf. V. PREGETH, A draddodwyd yan y Lhjwydd B. Young, yn y Tabernacl, Dinas y Lhjn Halen Fawr, Awst 8, 1852. [O'r " Deseret News Extra," am Fedi 14, 1852.] Mi a ddarllenaf ddadguddiad a roddwyd i Joseph Smith, ieu., a Sidney Rigdon. Eithr eyn gwneutbur hyny, a dechreu ar y pwnc a ddysgwyliaf osod gerbron y bobl y boreu hwn, dywedaf wrtbynt, raai fy nealltwriaeth i o berthynas i bregethu efengyl yr iachawdwriaeth yw hyn,—nad oes ond un bregeth i gael ei phre- gethu i holl blant Adda, ac y dylai y bregeth honö grtel ei chredu ganddynt, a byw i fyny iddii — Y tnae dechren, parhau, a ther- fynu pregeth efengyl, yn gofyn yr holl arnser a benodir i ddyn, i'r ddaear, ac i bob peth arni, yn eu sefyllfa farwol; dyna yw fy nrychfeddwl i o barthed i hregethu. Nid oes un dyn yn alluog i osod gerbron cynnulleidfa holl bynciau yr efengyl, yn y byẁyd bwn, a pharhau y pynciau hyn i'w terfyniad, canys y mae'r bywyd marwol hwn yn rhy fyr. Y mae hi yn gyssylltiedig an- wahanol, y naill ran a'r llall, yn yr holl athrawiaethau a ddad- guddiwyd i ddyn, y rhai a elwir yn awr athrawiaethau amrywiol Cristionogaeth, o ba rai y mae holl broffeswyr crefydd yn credu cyfran, eithr yn gwrthod, neu yn chwennych gwrthod, rhanau ereill o'r gwirionedd;—pob sect neu berson yn cyrtfmeryd iddynt m hunain ranau o'r Beibl, rhanau o atbrawiaeth yr iaohawdwr»