Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

UDGORN SEION, N E U WiSi n Aaínt. Rhif. 2.] IONAWR 8, 1853. [Cyf. V. DARLITH AR AML-WREIÖIAETH, ■A draddodwyd meivn Cymmanfa Gyffredìnol, yn Ninas y Llyn Halen Fawr, ar y 29ain o Awst, 1852. GAN Y PROFFESWR ORSON PRATT. Y mae yn gwbl annysgwyliadwy genyf, frodyr a chwiorydd, i gael fy ngalw i'ch anereh y boreu hwn ; ac etto yn fwy felly,i'ch anerch ar yr egwyddor a enwyd, sef aml-wreigiaeth. Mae yn hytrach yn dir newydù i jnL hyny yw, nid wyf wedi bod yn arferol o lefaru yn gyhoeddus ar y pwnc hwn ; ac y mae yn hytrach yn dir newydd i drigolion yr Unol Daleithiau, ac nid yn nnig iddynt hwy, ond i gyfran o drigolion Ewrop; mae cyfran o honynt hwy ag nad ydynt wedi arfer pregetlm athraw- iaeth o'r fath hyn; o ganlyniad, tnae yn rhaid i ni dori tir newydd. Mae yn eithaf hysbys, pa fodd bynag, i'r gynnulleiddía ger fy mron, fod Saint y Dyddiau Diweddaf wedi cofleidio yr athraw- iaeth o aail-wreigiaeth, fel rhan o'u ffydd grefyddol. Nid ydyw, fel mae llawer wedi tybied, yn athrawiaeth a gofleidir ganddynt er boddhau chwantau cnawdol a theimladau dyn; nid dyna ddyben yr athrawiaeth. Ni a ymdrechwn osod gerbron y gynnulleidfa oleulawn hon, rai o'r achosion paham y mae yr Hollalluog wedi dadguddio y fath athrawiaeth, a phaham yr ystyrir hi yn ran a chyfran o'm <credo grefyddol. A chredwyf na fydd iddynt, o dan ein ffurf 2 •