YE YMWELYDD: CYLCHGRAWN A NEWYDDIADUR %t Wmmetì& % Cgmrg p gtetelia, üfcfo %tẁẁt ŵc, Cyf. II.] MELBOURNE, TACHWEDD, 1876. [Rhif. 11 &raetf)Oìrau, &c* CODI'R GROES A HUNANYMWADU. Mae Cristionogion yn son yn fynych am godi'r groes, a'r ddyledswydd bwysig o hunan-ymwadu; ond y mae yn bur amheus a ydym bob amser yn glir ein syniadau am yr hyn a feddylir wrth hyn. Offeryn i gymeryd ymaith fywyd ydyw y groes. Yr oedd yn beth arferol i'r condemniedig ddwyn y groes ar ei gefn i le y dienyddiad, ac yno gael ei hoelio arni, ac aros felly nes trengu. Golyga hyn boen a dirdyniadau arteithiol. Y casgliad a wneir oddiwrth hyn, gan mynychaf, ydyw fod bywyd crefyddol yn un o boen a dirdyniadau par- haus; yn fywyd o ddyoddefaint ac arteithiau gwastadol. Ond y mae profiad pob gwir gredadyn yn dweyd peth gwa- hanol i hyny. Iaith profiad yw, " Ei ffyrdd hi sydd ffyrdd hyfrydwch, a'i holl lwybrau hi ydynt heddwch," Diar. iii. 17. " Canys nid yw teyrnas Dduw fwyd a diod; ond cyfiawnder, a thangnefedd, a llawenydd yn yr Ysbryd Glân/' Rhuf. xiv. 17. "Rhoddaist lawenydd yn fy nghalon, mwy na'r amser yr amlhaodd eu hŷd a'u gwin hwynt. Mewn heddwch hefyd y gorweddaf, ac yr hunaf; canys ti, Arglwydd, yn unig a wnai i mi drigo mewn dyogelwch," Ps. iv. 7, 8. Gallesid ychwanegu tystiolaethau, ond y mae hyn yn ddigon i ddangos mai nid bywyd o ddyoddefaint ac arteithiau gwastadol ydyw bywyd duwiol, namyn bywyd o hyfrydwch a mwynhad. Ond gofyna rhywun, Beth am y groes a'r hunan-ymwadu ? " I bawb mae croes, yn rahob rhyw oes, A chroes i minau sydd." Pa fodd y cysonir croes a phleser, ac y troir hunan-ymwadiad yn fwynhad ? A ydyw hyn yn bosibl ? Ydyw, ac yn beth a