Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YE YMWELYDD: CYLCHGRAWN A NEWYDDIADUR %t Wímmûl i Cgmrg p §tetralia, fîẃ ^calanìr, ẃt. Cyf. II.] MELBOURNE, HYDREF, 1876. [Rhif. 10 Craetfyoîrau, &t. ADDYSG YR YSGRYTHYRAU. (Parhad o tudal. 196.) Addysg Ymarferol yr Ysgrythyrau, mewn cysylltiad â'r byd hwn. Edrycha llawer ar ysgrythyrau yr Hen Destament gyda diystyrwch, â golwg ddiflas a siomedig, gan ei ystyried fel llestr gwag a diwerth, a'i gynwysiad wedi ei gymeryd i mewn i'r Testament Newydd; a gwastraff ar amser, meddant hwy, yw ei ddarllen a'i chwilio; ond dewiswn ni farnu yn wahanol i'r tylwyth yna sydd mor gyfyng eu meddyliau ac arwynebol eu syniadau am ei gynwysiad. Addefa yr anffyddwyr, er eu bod yn gwadu dwyfoldeb yr Ysgrythyrau, a'u cysylltiad â byd arall, fod eu haddysg yr oreu ellir gael rhwng dyn a dyn yn y byd hwn, a gadael eu dwyfoldeb a'u cysylltiad â byd arall allan o'r pwngc. Y mae y gwersi manwl a buddiol a geir yn y deddfau seremoniol o berthynas i fwydydd, glanweithdra, a'r modd y dylai y naill ddyn ymddwyn tuagat y lìall o'r pwys mwyaf i gymdeithas. Yr oedd y genedl Iuddewig wedi bod yn trigianu am hir amser yn ngwlad yr Aifft, ac yr oeddynt wedi syrthio i raddau helaeth i arferion llygredig a niweidiol y genedl eilunaddolgar hòno; ond pan y mae yr Arglwydd yn myned i'w neillduo fel cenedl iddo ei hun, y mae fel Tad gofalus yn rhoddi cyfar- wyddiadau manwl i'w blant ynghylch amgylchiadau cyffredin bywyd. Gan fod iechyd teulu yn dybynu i raddau helaeth ar natur y pethau yr ymborthant arnynt, y mae Efe yn krhoddi cyfarwyddyd i'r genedl pa fwydydd i'w cymeryd; a cheir rhestr lled fanol, yn Lef. xi., o'r creaduriaid iachus a maethlon iddynt ymborthi arnynt o hyny allan. Tybia rhai