Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YE YMWELYDD: CYLCHGRAWN A NEWYDDIADUR %t W\mnct$ g Cpinj p fwstralia, ffcfo &alattò, #c. Ctf. IT.] MELBOURNE, MEDI, 1876. [Rhif. 9 £ürartl)oìiaut &r, ADDYSG YR YSGRYTHYRAU. GAN JOHN JAMES, SEBASTOPOL. NlD oes dim braidd yn cael mwy o sylw y dyddiau hyn nag addysg, yn enwedig addysg Ysgrythyrol mewn cysylltiad a'r ysgolion dyddiol. Nid oes neb am daflu un rhwystr ar ffordd addysgiant Ysgrythyrol, ond y ddadl yw pa bryd ac yn mha le y dỳlid ei gweinyddu. Addefir yn gyffredinol ei bod o'r pAvys mwyaf i'r oes sydd yn codi gael eu hyfforddi yn yr ysgrythyrau dwyfol, oherwydd mai y Beibl yw prif lyfr y byd, ac addysg yr ysgrythyrau a rydd gyfeiiiad priodol i'r meddwl dynol. Heb yr addysg hon nid ydys fawr gwell na deillion yn ymbalfalu ar bared. Pa nifer bynag o wahanol farnau ddichon fod am y pa ie, pa bryd, a chan bwy y dylai yr addysg hon gael ei gweinyddu yn ddyddiol, diameu mai yr Ysgol Sabbothol yw y trefniant mwyaf cj^fleus i gyfranu addysg Ysgrythyrol Ond testun y sylwadau canlynol fydd yr hyn a ddysgir yn yr Ysgrythyrau. Addysg Hanesyddol yr Ysgrythyrau. Bu dynolryw am yspaid maith o amser heb un datguddiad uniongyrchol oddi- wrth Dduw; a phan gafwyd datguddiad, cafodd ei gyfyngu yn gyfangwbl braidd i un genedì, sef yr Iuddewig. Yr oedd yr holl fyd tuallan i'r genedl hon yn amddifad o unrhyw ddat- guddiad goruwchnaturiol—nid oedd ganddynt yi* un cyfar- wyddyd i'w harwain at yr hyn y chwilient am dano, sef gwirionedd, a'r gwirionedd hwnw mewn cysylltiad a'r Crëwr a chread, ond eu rheswm a goleuni aneglur natur. Dyma destynau mawr-ymchwiliad yr hen athronwja- paganaidd am oesau lawer; ac, fel y gwyddis, nid rhyw eiddilod o feddylwyr