Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YE YMWELYDD: CYLCHGRAWN A NEWYDDIADUR %t Wm\wfy % Cgmrg p §tetralia, Ueftr ^Manìr, ŵc. Cyf. II.] MELBOÜRNE, AWST, 1876. [Rhif. 8 &raetí}öîratt, &c. CENADWRI CERDDORIAETH. GAN MR. J. PROUDMAN. Breuddwydiais freuddwyd! Yr oeddwn yn crwydro drwy ddinas brysurlawn, fy nghlustiau yn cael eu syfrdanu gan wrthguriadau peiriannau a rhugldwrf treigHadau olwynion. Nid oedd yno un sain nad oedd yn fynegiad o lafur, a'r cyfan fel un ochenaid fawr meibion blinder mewn gwanc am fara neu elw yn ymdoni ar fy nghlustiau fel llanw eigion. Blinodd fy llygaid yn edrych ar y wynebau gwibiedig a ymrithient yn fyrddiynau o flaen fy ngolygon—yr oeddynt yn ymddangos wedi eu brawychu gymaint gan ofalon neu eisieu, gan ofidiau neu droseddau; rhai yn ymddangos yn drist, rhai yn ddideimlad, rhai yn ddiobaith. Yr oedd yno fechgyn yn ymddangos yn fwy fel dynion bychain na phlant. pob un yn penelinio drosto ei han, a'r gwanaf yn myned i lawr. Y cyfan yn mynegu llafur—llafur blin—^llafur wedi ei feichio â gofalon, gofalon heb ddyferyn o dynerwch. 0 mor boenus allan o le yr ymddangosai y cardotyn dall yna yn llefain am ddynol gydymdeimlad! Ac y mae yr eneth bryd- weddol yna yn achosi syndod tra y mae yn gwibio, fel ysbryd, ar draws yr heol i gael ei llyngcu yn y dyrfa symudol. Wrth sefyll ar y palmant poeth yno yr oedd yn anhawdd credu fod etto flodeu yn ymwrido ar y ddaear—dim arwyddion o honynt yma; yr oedd yn anhawdd credu fod dynion yn meddwl am Dduw, neu fywyd tragywyddol—dim arwydd o hyny yma! Tra yr oeddwn yn synfyfyrio, clywais ochenaid mor felus, mor fwyn! Troais yn synedig tua'r man o ba le y daeth, a gwelais serafF prydweddol a dysglaer—ei wyneb yn bruddaidd, etto yn