Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YE YMWELYDD: CYLCHGRAWN A NEWYDDIADUR %t Wmmtt$ i Cprg p gustralia, |tefo %tẅút ŵc. Cyf. II.] MELBOURNE, MEHEFIN, 1876. [Rhif. 6 &raetf)oîiau, &c. DIWEDD ANNGHREDLNIAETH YN GYMHELLIAD I FFYDD* GAN Y PARCH. O. THOMAS, LIVERPOOL. " Canys daeth yr amser i ddechreu o'r farn o dŷ Dduw: ac os dechreu hi yn gyncaf arùom i»i, beth fydd diwedd y rhai nid ydynt yn credu i efengyl Duw."—1 Pedr iv. 17. ]VTae y geiriau hyn wedi eu bwriadu gan yr Apostol i fod yn rhan o'r anerchiad at y Cristionogion, i'w nerthu i ddyoddef yr erledigaeth. Y mae yn eu dysgu yn y lle cyntaf i beidio edrych ar y pethau hyny fel pethau nad oeddynt iV dysgwyl. " Anwylyd, na fydded ddyeithr genych am y profiad tanllyd sydd ynoch, yr hwn a wneir er profedigaeth i chwi, fel pe b'ai beth dyeithr yn dygwydd i chwi," y mae ein Harglwydd wedi ein rhybuddio mai felly y byddai; edrychwch arno fel anrhyd- edd mawr sydd yn cael ei roddi arnoch. " Eithr llawenhewch, yn gymaint a'ch bod yn gyfranogion o ddyoddefiadau Crist;" mewn gwirionedd, Crist maent hwy yn ei erlid, nid chwi. " Saul, Saul, paham yr wyt yn fy erlid i ? " Crist yw gwi'th- ddrych yr erledigaeth, a'ch tebygolrwydd iddo Ef sydd yn peri i chwi ddyoddef cyflawni yr hyn sydd yn ol o'i ddyoddef- iadau—ei gefn Ef sydd dan y gwi'ail. Felly, llawenhewch yn yr anrhydedd a roddir arnoch " fel, pan ddatguddir ei ogoniant Ef, y byddoch yn llawen ac yn gorfoleddu." Yn bur fuan, bydd ei ogoniant mor danbeidiol fel y diffrwythir pob braich; a'r pryd hyny cewch chwi lawenydd a gorfoledd. "Os difenwir chwi er mwyn enw Crist, gwyn eich byd"—hapus * Drwy garedigrwydd Mx. John Wynn Williams, Williamstown, galluogir ni i roddí i'n oarllenwyr y dyfyniadau hyn o'r bregeth, a dderbyniodd efe oddiwrth ei chwaer, yr hon a'u hysgrifenodd wrth ei gwrando yn Nghymanfa Beaumaris, Tachwedd 4, 187-6,