Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y CSONICL, Rhif 128. RHAGFYR, 1853. Cyf. XI. C H I N A . Mae yr ymerodraeth eang hon megys byd ynddi ei hun, ar wahan er's oesoedd oddiwrth genhcdlaethau gwâr y byd. Mae yn cael ei chylchynu o du y gorllewin gan fynyddoedd ac anial- wch, y rhai a'i rhanant oddiwrth Tartary, Thibet, a theyrnas Ava; ar yr ochr ogledd orllewin gan Tartary; y dwyrain gan y Môr Melyn, a'r Cefnfor Chineaidd; a'r dehau gan yr un Cefnfor, &c. Y mae yn 1,297,999 o filldiroedd petryal. Mae gwahanol farnau am ei phoblogaeth. Dywed Morrison ieuangaf ei bod yn 367,659,867. Barna Staunton mai 330,000,000, ydynt. Barna Allerstain mai 198,000,000, ydynt. Casgla eraill mai y rhif gywiraf ydyw o 250,000,000 i 300,000,000. Wrth ddal sylw ar sefyllfa fanteisiol Mr. Morrison, fe ddichon mai ei gyfrif ef ydyw y cywiraf. Mae yn un o'r gwledydd fírwythlonaf dan y nef: ei sefyllfa o'r arctic hinsoddau hyd y tropic liinsoddau, felly yn addas i gyn- nyrchu pob math o ffrwythau a llysiau nas gall un hinsawdd arall gynnyrchu eu bath, yn neillduol tè a sidan. Mae uchder ei mynyddoedd, helaethrwydd ei gwastadedd, amledd ei haf- onydd, a chyfleusderau i fordwyo o ardal i ardal, a'i chamlas mawr yn ei gwneuthur yn wlad werthfawr ei chyfleusderau masnachol; ac y mae ei sefyllfa ddaearyddol yn ei gwneuthur yn wrthddrych teilwng o sylw y llywod-ddysgydd, a'r athron- ydd mwyaf llygadgraff. Tybir mai yn y wlad eang hon y tir- iodd Noah a'i arch: felly bu yn gawell magu dynoliaeth—allan o honi y tarddodd ffrwd yr hil ddynol i doi y ddaear. Mae ei hanes boreuol dan gaddug o dywyllwcli, ac wcdi ei wisgo â