Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y CBONICL. Rhif 124. AWST, 1853. Cyf. XI. Gtoft'atot. TEULÜ ADFEILIEDIG. Mewn man ar lethr, yn ymyl afon a elwir EhuddaHt, yr hon a reda gyda godre yr Wyddfa tnvy lynoedd Llanberis, yr oedd teulu ychydig flynyddoedd yn ol, cynnwysedig o dad a mam, a phump o blant, y rhai a ddygwyd i barchu crefydd y Gwaredwr o'u mebyd nes ei phroffesu, a bod yn anrhydedd iddi yn nghanol plant a ieuenctyd yr ardal. Ond buan y dech- reuodd angeu eu symud o'r eglwys filwriaethus sydd yn Bozra, i'r eglwys orfoleddus sydd yn y nefoedd. Aethant i fyny o Bozra wedi gorchfygu eu holl elynion. Y gyntaf a symudwyd ac a aeth i fyny oedd Ann. Pan nad cedd y planhigyn ond dechrcu dyfod i'r golwg ae ymagor, planwyd ef yn meusydd paradwys. Yr ail oedd Ellin fach. Yr oedd ei harddwch, yn enwedig ei harddwch meddyliol, yn swyno pawb a'i hadwaenai; ond nid arbedai awel oer y darfodedigaeth mo lioni hithau mwy na'i chwaer. Y drydedd oedd Margaret, yr hon a gyrhaeddodd fwy o nerth ac oed na'i chwiorydd; ond er ei sel grefyddol a'i nerth corffbrol, gwanhaodd ei nerth ar y ffordd. Ni ddywedwn ychwaneg am y chwiorydd ieuainc uchod, ymddangosodd byr- gofiaint am danynt yn Cronicl Cliwefror, 1847. Y diweddaf a newidiodd er ei well ocdd Evan. Daeth yntau i'r winllan yn nechreu ei ddiwrnod, a gweithiodd ei ran yn hynod o ffyddlon a diwyd hyd y diwedd. Ni welwyd erioed mo hono yn dilyn y Uuaws i wneuthur drwg, ac ni chydunodd â deniadau pechaduriaid, ehwaethach eistedd yn eisteddfa gwatwarwyr; ond yr oedd a'i ewyllys yn nghyfraith yr