Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y CEONICL, Rhif 123. GORPHENAF, 1853. Cyf. XI. (Eoftamt D A V I D P R I C E, 17 hwn a fu farw Chwefror 15, 1852, yn 14 mlwydd oed. WEDI EI YSGHIFENU GAN EI DAD. Gorchwyi, anhawdd i dad yw ysgrifenu cofiant ei fab ei hun; cofiant ei unig fab; mab wedi tyfu i fyny i oedran cyfaill; cyf- eillgarwch wedi ei sylfaenu ar serch cryf, a chariad diragrith. Ni churodd calon mewn mynwes mab erioed a mwy o gariad ynddi tuag at dad, nag oedd yn ei galon ef tuag ataf fi. Adeil- edais gestyll uchelo ddysgwyliadau oddiwrtho. Dysgwyliais y buasai ef yn enwog yn y pcthau yr wyf fi yn ddiffygiol. Pen- derfynais nad arbedwn un draul na thrafferth i'w wneuthur ef yn ysgolhaig enwog yn ei oes, a gweddiais lawer ar Dduw ei wneuthur yn Gristion defnyddiol. Gwelais flodau teg yn addaw ffrwythau fy ngobeithion; ond och! yn ddisymwth ac annys- gwyliadwy, dyryswyd fy nghynlluniau—siomwyd fy nysgwyl- iadau—trywauodd angeu ei galon dynermewn gwlad estronol, lle nad oedd mam, na thad, na chwaer, i gynnal pwys ei ben, nac i sychu yr oer-chwys oddiar ei ruddiau hoff. Cymerwyd dymuniant fy llygaid ymaith â dyrnod. Ganwyd fy anwyl fab yn Penybontfawr, swydd Drefaldwyn, Mawrth27, 1838. Y mac coffadwriacth am y diwrnod hwnw yn ysgrifenedig genyf mewn llyfr:—" Chwarter cyn dau y prydnawn heddyw, y ganwyd i mi fab—y mab cyntaf. Yr Arglwydd a'i rhoddodd i mi, ac yr ydwyf y mynyd hwn, er na fu yn fy meddiant etto oud ychydig fynydau, yn ei gyflwyno enaid a chorff i'r Arglwydd. O, Arglwydd, cymcr ef yn eiddo"