Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y CRONICL, Rhif 121. MAI, 1853. Cyf. XI. öoft'amt. TEO BYR DRWY FYNWENT LLANFAIR, DYFFRYN CLWYD. Saif Llanfair ar fryn frrwythlawn, o fewn tair milldir i ben deheuol Dyffryn Clwyd. Y mae yn un o'r manau prydferthaf yri Nghymru. Wrth edrych tua'r gogledd ar hyd y Dyffryn, ar ddiwrnod eglur, gwelir, " meddan nhw," mor bell a'r môr wrth y Rhyl, sef tair milldir ar hugain. Yn ochr y dwyrain, y mae mynyddau swydd Callestr. Maent yn uchel, a'r gadwen yn rheolaidd ac yn biydferth; ond nid yn aruthrol fel mynydd- au Arfon a Meirion. Y mae y blaenaf fel pe byddent wedi "estyn llinyn" arnynt, a'u "cymhwyso â bwyall," a'u " gwcithio wrth gwmpas;" ond y mae yr olaf wedi eu " llunio â morthwylion, a nerth braich." Nid wyf wedi ymgymmodi â'r bedd, nac yn foddlon myned iddo; ond y mae yn hoff genyf ymrodio yn mhlith y beddau. Os arhosaf mewn pentref, a chenyf ychydighamdden, nid aml y byddaf heb dalu ymweliad i'r gladdfa. Ac yr wyf felly wedi taro wrth feddau amrai oeddwn yn eu hadnabod, a mwy y clywswn am danynt; a diau fy mod wedi sangu llwch llawer o enwogion, ac o anwyliaid y nef, er nas gwyddwn i. Pan oedd un plentyn yn rhodio gyda ei dad drwy fynwent, ac yn darllen yr adnodau a'r englynion ar y meini, gofynai, "Pa le y mae y fan arall, lle y claddant bobl ddrwg, canys y mae pawb sydd yma yn dda? " Y mae y gofyniad yn dra naturiol. Clywais innau ambell englyn yn dweyd fel hyn, pan oedd y Bibl yn dweyd fel arall. Do, gwelais ambell adnod wedi ei rhoddi mcwn lle mor anmhriodol a phe yr ysgrifenasid, "Ni ddysgant