Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y CRONICL, Rhif 119. MAWRTH, 1853. Cyf. XI. &netcf)ton a yfymmon. CYMEBIAD JOSIAH. Enw ei fam ef oedd Jedicìah, merch Adiah o Boscath, ac enw ei dad oedd Amon. Josiah oedd yr ail freuin ar bymtheg ar Judah; dcchreuodd deyrnasu pan nad oedd ond wythmlwydd oed, ac un mlynedd ar ddeg ar hugain y tcyrnasodd efe. Yr oedd yn hynod am ei ddidwylledd a'i dduwioldeb. Yn y ddeu- ddegfed flwyddyn o'i deyrnasiad, dechreuodd lanhau Judah a Jerusalem oddiwrth yr uchelfeydd, a'r llwyni, a'r delwau cerf- îedig, a'r delwau toddedig. Llosgodd holl lestri Baal, a di- swyddodd holl offeiriaid Baal. Llosgodd y llwyni, a bwriodd i lawr dai y Sodomiaid; " halogodd Tophet yr hon sydd yn nyffryn mcibion Hinnom, í'el na thynai neb ei fab na'i ferch trwy dân i Moloch ;" dyfethodd y meirch a roddasai brenhin- oedd Judah i'r haul; dystrywiodd yr allorau oedd ar nen tŷ Ahaz, y rhai a wnelsai brenhinoedd Judali, a'r allorau a wnelsai Manasseh yn nau gyntedd tŷ yr Arglwydd; a thynodd ymaith y swynyddion a'r dewiniaid, a dinystriodd yr holl ddelwau a osodasai Amon ei dad; a llosgodd esgyrn dynion ar yr allor yn Bethel, a'r uchelfa a wnaethai Jeroboam mab Nebat, yr hwn a wnaeth i Israel bechu; tynodd ymaith holl dai yr uchelfeydd, y rhai a wnelsai brenhinoedd Israel i ddigio yr Arglwydd, ac a wnaeth iddynt yr holl weithredoedd a wnelsai efe yn Bethel. Ae yn y ddeunawfed flwyddyn o'i dejTnasiad, dechreuodd ad- gyweirio y demL Yn y cyfhod hwn, cafodd Hilcia yr arch- offeiriad gj'fysgrifen o gjrfraith Moses yn nhŷ yr Arglwydd, trysor anaml yn y dyddiau llygredig hyny. Nid oedd Josiah cyn hyn ond hannerog o ran ci wybodaeth o'i chynnwysiad; a