Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y CRONICL. Rhif 118. CHWEFROR, 1853. Cyf. XI. Coft'amt WYTH A PHEDWAR UGAIN MLTNEDD SION EDWAED. " Meddyliwch am eich blaenoriaid." Y mae rhai o'n blaenoriaid i'w cael yn y bedd, ond yn llefaru yn uchel wrth y byw. Ehai o honynt a âdawsant i ni ymddyg- iadau rhinweddol i dystio pa fath rai oeddynt, llwÿbrau cref- yddol i'w dilyn, ac esiamplau cymeradwy i'w hefelychu, oblegid hwy a " draethasant i ni air Duw." Nid ydym yn dywedyd nad oedd colliadau ynddynt, canys y mae y cyfryw nodweddiad uwchlaw dyn mewn amser. Etto yroedd ynddjmt lawer o bethau yn dweyd wrthym ni, " Ffydd y rhai dilynwch, gan ystyried diwedd eu hymarweddiad hwynt." Y mae angeu wedi dolurio llawer teimlad, terfynu llawer cyfeillach, a chwalu llawer teulu yn yspaid y saith mlynedd diweddaf; ac y mae eiddo yr ysgrifenydd yn eu plith, oblegid gall ddweyd yn brofiadol, " Câr a chyfaill a yraist yn mhell oddiwrthyf, a'm cydnabod i dywyllwch." Dau sydd tu yma i'r bedd o'r teulu lluosog ag oedd yn fyw ac iach saith mlynedd yn óL Y mae ein perthynasau agosaf wedi eu cymeryd oddi- wrthym. Ni wyddom ddim am danynt wedi iddynt ymadael, oblegid nid oes dim gohebiaeth rhwng y byw a'r marw, na chymdeithas rhwng deiliaid amser a deüiaid tragwyddoldeb. Pan gyrhaeddom yno, diammau y bydd i ni gael Üawer yn wahanol i'r hyn yr ydym yn tybied am danynt yn bresenoL Digon i ni ydyw dweyd pa fath rai oeddynt, a pha le y buont, a gadael i dragwyddoldeb ddangos pa fath rai ydynt, a pha le y maent. Y mae genym obaith heb ofn am rai, ac ofn heb obaith am eraill. Caiff pawb o honom wybod yn fuan pa le y mae eraill, a theimlo yn brofiadol ein sefyllfa bersonol; gan hyny, " byddwn barod." Yr ydym ar gais cyfeillion a pherthynasau wedi ysgrüenu cofiantau er cadw mewn coffadwriaeth—Fy nhad a ìnam—Bu fano fy mraivd~-Ymadawiad fy chwaer. Yn awr, y mac