Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y CEONICL. Rhif 115. TACHWEDD, 1852. Cyf. X. Enm^tûît a ^anmon. YR ARDDANGOSIAD MAWR. Mb. Gol.—Pe buasai Awdwr dammeg y deng morwyn, dammeg y winllan, dammeg yr hauwr, a dammeg y tý ar y graig—pe buasai y Dyn na lefarodd neb erioed fel efe, yn pregethu yn awr, yr wyf yn sicr na adawsai i Arddangosiad 1851 fyned heibio heb wneud rhyw ddefnydd o hono. Gan hyny, esgusoder yr Hogyn am gyfeirio ato, er , ei bod yn llawn blwyddyn wedi'r amser. Cyhoeddir y sylwadau canlynol ar gais Mrs. G. ac eraill o wragedd crefyddol Meirion. " Pan ddel efe i fod yn rhyfeddol yn y rhai oll sydd yn credu yn y dydd hwnw."—Padl. "Y dydd hwnw" yw y farn. Dangoswn pa beth yw rhyfeddod—Bod ereadur rhesymol am weled rbyfeddodau— | Bod Crist yn gwneud rhyfeddodau—Mai y "dydd bwnw" yr arddangosir rbyfeddodau yr iachawdwriaeth—Ac mai Crist a'r credadyu fydd y pettaau rhyfeddaf yno. I. Pa beth îw rhyfeddod? Unrhyw beth anghyffredin. Y mae adar Prydain yn rhyfeddod yn Affrica, ac adar Affrica yn rhyfeddod yn Mrydain. Y mae meirch Lloegr yn rhyfeddod yn yr India, ac Elephantiaid yr India yn rhyfeddod yma. Nid yw preswylwyr y brifddinas yn sylwi ar St. Paul's, ond synent at yr Wyddfa; ac nid yw trigolion Llanberis yn sylwi ar y Wyddfa, ond synent at St. Paul's. Ystyrir trwst taranau yn rhyfeddach na thrwst gwyntam ei fod yn fwy anghyffredin. Mae mellt yn fwy rhyfeddod na ser am y gwelir hwy yn fwy auaml. Y mae bwrw iâ fel tameidiau yn rhyfeddach na gwlitho am ei fod yn beth mwy angbyffredin. Nid oes diffyg ar yr baul böb dydd, ac am byny rbyfeddir ato. Pe